LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 156r
Brenhinoedd y Saeson
156r
Grufud. Ac y bu varw Meuric escob bangor. Ac y
cavas howel ap Jeuaf castell Walwern yng|kyuei+
liawc drwy dwyll. Ac am hynny y kymyrth Owein
ap Grufud tristwch yndaw am varw y vam. hyt na
allei dim y digrifhau. A gwedy mynet hynny hei+
biaw y doeth Owein a|y lu hyt yn llandynnan yn
Arwystli a chynvllav anreith dirvaur. Ac y doeth
gwyr arwistli gyt ev harglwyd howel ap Jeuaf ac
ymlit yr anreith hyt yn gordwr hafren. Ac yna ym+
chwelud o Owein attadunt ac ev hymlit ac ev llad
o breid y dienghis ev traen yn vew. Ac yna y doeth
gogonyant mewn Owein ac yr atkyweiriawt y
gastell drachevyn. Anno.ijo. y kessegrwyd Thomas
channseler eil henri vrenhin yn archescop yg|keint.
Ac y torrat castell Carrecgova y gan Owein ap Grufud.
ac Owein ap Madoc. a Moredud. a howel. Ac yd|aeth
henri vrenhin a llu dirvaur ganthaw y deheubarth
kymre hyt ym pencadeir. Ac a gymyrth gwistlon gan
Rys ap Grufud ac a dychwelavd y loegyr drachevyn.
yn|y vlwydyn honno y llas Eynon ap Anaraut y gan
wr idaw e|hvn Wallter ap llywarch yn|y gwysc. Ac llas
Cadwgon ap Moredud y gan Walter vab Richard. Ac y
kymyrth Rys ap Grufud y Cantref mavr ar tir yn
dinefwr yn eidaw e|hvn. Ac y bu varw Kedivor vab
daniel Archdiagon keredigion. Ac y bu varw henri
vab Arthen yr ysgolheic gorev o|r kymre o|r a oed
yn vn oes ac ef. Anno.iijo. y gwelas Rys ap Grufud
nat yttoed y brenhin yn kwpplau y edewyt. ac na
allei bychedockau val ydoed. rac tlodi. ef a gymyrth
tir Roger Jarll clar a hynny o annoc Eynion y nei ac
a oed tywyssauc llu idaw ac a las. Ac a oresgynavt
holl keredigiavn yr eilweith. Ac a losgas castell ab*
reidaul a chastell Mabwynnyaun. ac a anreithaut
« p 155v | p 156v » |