LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 51r
Brut y Brenhinoedd
51r
gwedy ev dyuot y ynys brydeyn. ny bu bell yny ym+
gyvaruuant ac ev gelynnyon. ac ymlad yn wychyr
creulon ac wynt. a llad llawer onadunt. a gyrru
gwynwas a melwas ar ffo hyt yn ywerdon. Ac yn
yr amser hwnnw y llas maxen yn ruvein a|y holl
kedymeithion o|r a hanoed o ynys brydeyn. onyd
a dienghis o bedestric hyt yn llydaw. ar kynan mei+
riadauc. A hynny a oruc kedymeithion a chereynt y
gracian o lid ry wrthlad o vaxen gracian o|r amherodra+
eth.
A gwedy gwybot ry lad maxen y kymyrth Gracian
llywodraeth ynys brydeyn yn eidaw e|hvn. a gwiscav
coron y dyrnas a oruc. a gwledychu hir amseroed
drw* creulonder wrth y bryttannyeit. A gwedy gwelet
onadunt na|thygey dim wrth y greulonder. y doeth
y wyr ef e|hvn am y ben a|y lad. A gwedy gwybot o|wyn+
was a melwas ry lad Gracian. kynullaw a|orugant
wyntheu o wyr llychlyn a denmarc ac yscottieit ar
ffichtieit. a dyuot hyt yn ynys brydeyn a|y hanreithi+
aw o dan a haearn. a hynny o|r mor pwy gilyd. a llat
y kiwdawdwyr yn olofrud. A gwedy gwelet o|r bryt+
tannyeit na alleynt ymderbyneit ac wynt. anvon
a orugant hyt yn ruvein y geissiaw nerth y gan
ssened ruvein y wrthlad ev gelynyon oc ev tervynev.
Ac yna y caussant lleng o wyr aruawc yn ganorthwy
ydunt. A gwedy ev dyuot hyt yn ynys brydeyn; ym+
gynullaw a oruc y bryttanyeit attadunt. a chyrchu ev
gelynnyon yn wrhawl a|orugant. ac ymlad ac wynt
yn wychyr calet creulon. a llad lluossogrwyd onadunt.
« p 50v | p 51v » |