LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 260r
Ystoriau Saint Greal
260r
ac ony wnaỽn hynny ny bydỽn wr kywir ytt. Wrth hynny
arglỽyd chwedleu yssyd ym gỽedy|r dyuot bot brenhinyaeth
magdalans a|gỽyr yr alban a|chỽbyl o|r ynyssed ereiỻ gỽedy
kytunaỽ ac ymgredu drỽy aruoỻ ar wneuthur laỽnslot yn
vrenhin arnunt. a|gỽedy hynny ỽynt a ymgytunassant am
ryuelu arnat ti. ac am dyuot y|r wlat honn gyntaf ac y geỻ+
ynt. ac ynteu a|dyngaỽd udunt ar|wneuthur kỽbyl oc eu hoỻ
ewyỻys ỽynt ac o vynet gyt ac ỽynt y bop ỻe o|r y mynnynt.
ac yn bendiadnot y|th diwreidyaỽ di o|th gyuoeth. ac onyt
ymogely di rac hynny ti a|eỻy gael coỻet ac afles a|chewilyd.
Myn vym|penn i heb·yr arthur ny thebygaf|i vedylyaỽ o
laỽnslot hynny. na|bot callon drỽc ganthaỽ y|m kyueir. Myn
vy|ngret i heb·y briant mi adnabuum hynny arnaỽ yr ys|ta+
lym. yr hynny ny dyly neb dy·wedut o|e arglỽyd yn ehegyr yr
hynn mỽyaf a|wypo rac tybyeit ỽrthaỽ y vot yn ethrodỽr.
Eissyoes nyt oes beỻach dim a gelwyf|i ragot ti rac meint
dy ymdiryet ym. a|r anryded a|wnaethost am·danaf. a thydi
a|eỻy ymdiryet ymi kanys minneu a roessum kỽbyl o|m
daear ytti ar|dy ewyỻys. o|r achaỽs y geỻy di ym·rydhau y
ỽrth dy elynyon os mynny. kanys ti a|wdost nat oes y|th lys
di marchaỽc vỽy y aỻu no myui. Myn vyng|cret i heb·yr ar+
thur briant mi a|th garaf di o hynn aỻan. a thra vỽyf vyỽ
nyt oes a|aỻo dỽyn dy garyat y ỽrthyf. na thitheu ny|th
dygir vyth o|m gỽassanaeth i tra welwyf ffydlonder ynot.
« p 259v | p 260v » |