NLW MS. Peniarth 11 – page 137r
Ystoriau Saint Greal
137r
M arius heb·y gỽalchmei yd ỽyt ar|gam ỽrth yr arglỽydes
oreu o|r|a|weleis eirmoet a|chỽrteissyaf ỽrth lettyỽr a|delei at+
tei. ac am hynny y|dylyut titheu y|diolỽch idi. ac yr ỽyt titheu
yn gỽneuthur diruaỽr gewilyd yr aỽr·honn idi hi. ac nys gỽnn i
paham. a mi a|th wediaf di yr vyng|karyat i ar uadeu idi dy
lit. a minneu paraỽt ỽyf y dyngu na|wneuthum i chweith
kewilyd ytti. ac na bu gennyf dim medỽl o|e wneuthur. Yna
marius a ymgyflaỽnaỽd o|lit pan weles nat athoes walchmei
ymeith etto. ac a doeth idaỽ loes o eidiged. ac a|ennynnaỽd y
gorff a|e gaỻon yny vedylyaỽd gỽneuthur diruaỽr ffyrnigrỽyd
a|ffolineb. Gỽalchmei heb ef mi a vadeuaf vy ỻit idi drỽy amot
ymwan o·honat titheu a|myui. ac os|tydi a|oruyd arnaf|i. hitheu
a|vyd ryd o|r hynn yr ys yn y vỽrỽ arnei yr aỽrhonn. ac nyt arch+
af amgen heb·y gỽalchmei. Ac yna yd erchis marius y|r korr
dỽyn y wreic o|r dỽfyr. ac ynteu a|e duc hi. ac a erchis idi eisted
yn|y ỻannerch yn|y ỻe y dylyei y marchogyon ymwan. Ac yna
gỽalchmei a|droes dra|e gevyn y gymryt redec o|e varch. a ma+
rius yr vn|ffunyt. A|phan|weles marius gedernit gỽalchmei a|e
diwygyat yn|y gyrchu. ef a|vrathaỽd y varch a dỽy yspardun
yn|y erbyn. ac a ellyngaỽd gỽalchmei heibyaỽ. ac a|ostyngaỽd
penn y waeỽ tu a|r ỻaỽr. ac a|gyrchaỽd tu a|e wreic. ac a|e|bratha+
ỽd yny vyd y gỽaeỽ trỽydi. ac odyna ffo yn vuan a|oruc tu a|e
lys. ac yna gỽalchmei a|edrychaỽd ar y wreic yn marỽ. ac
ar y korr yn|ffo yn ol y ueistyr. ac ynteu a|e hymlityaỽd ac a|e
godiwedaỽd ac a|beris y|r march y gyvarsenghi yny yttoed y
ymysgar am y draet. a|gỽedy hynny ef a gyrchaỽd yn ol ma+
rivs
« p 136v | p 137v » |