BL Harley MS. 4353 – page 7r
Llyfr Cyfnerth
7r
pan enillo kadeir y keiff yr ygnat llys corn
bual a| modrỽy eur. A|r gobennyd a dotter y
danaỽ yn| y gadeir. Pedeir ar hugeint a geiff
yr ygnat llys o pop dadyl sarhaet a lledrat
y| gan y neb a diagho o|r holyon hynny. Ef a
geiff tauaỽt y tauaỽt a del y pen yn anrec
y|r brenhin. A|r tauodeu oll o|r llys. kanys yn ̷+
teu a uarn ar y tauodeu oll. A|r brenhin a dy ̷+
ly llanỽ lle y tauaỽt o gehyr mordỽyt y llỽd ̷+
yn bieiffo y|r gof llys. Ygnat llys yỽ y trydy ̷+
dyn a gynheil breint llys yn aỽssen y bren ̷+
hin. Ryd uyd o ebediỽ. kanys gỽell yỽ ygne ̷+
itaeth no dim pressenhaỽl.
By dyd bynhac y llatho yr hebogyd crych ̷+
yd neu bỽn. neu whibonogyl vynyd
o rym y hebogeu. tri gỽassanaeth a wna y
brenhin idaỽ. dala y varch tra achuppo yr adar.
A dala y warthafyl tra discynho. A|e dala tra
eskynno. Teir gỽeith yd anrecca y brenhin
ef y nos honno o|e laỽ e| hunan ar uỽyt. ka ̷+
nys yn llaỽ y| gennat yd anrecca beunyd
ef eithyr yn| y teir gỽyl arbenhic. A|r dyd
y llatho ederyn en·waỽc. Ar gled y kyghell ̷+
aỽr yd eisted y|ghyfedỽch. Croen hyd a geiff
yn hydref y| gan y penkynyd y wneuthur menyc
« p 6v | p 7v » |