NLW MS. 3036 (Mostyn 117) – page 219
Brut y Brenhinoedd
219
yn| y wassanaeth. rodi canhat a oruc y paỽb y vynet
y eu gulat onadunt y ymparatoi erbyn kalan aỽst.
A gorchymyn a| wnaeth dyuot paỽb yn| y teruyn hỽn+
nỽ y porthua douyr yn llỽyr ỽrth gychwyn odyno
ygyt yn erbyn yr| amheraỽdyr. Ac yna yd anuones
arthur ar amheraỽdyr rufein trỽy y| gennadeu y
uot ef yn ymparatoi ỽrth vynet parth a| ru+
uein. Ac nyt yr ufydhau y sened rufein. namyn yr
kymhell arnadunt yr hyn yd oedynt ỽy trỽy any+
lyet yn| y erchi idaỽ ef. A chychwyn a oryỽ* y kenna+
deu. A chychwyn a wnaeth y brenhined ar| tyw+
yssogyon yn diannot ỽrth paratoi eu lluoed mal
y hedeỽssynt ac mal yd archydoed udunt ỽynteu.
A Guedy guarandaỽ o les amheraỽdyr rufein
ateb arthur gan y gennadeu. Anuon guys
a oruc ynteu ar vrenhined y| dỽyrein o gyffredin
gyghor sened rufein y| erchi y paỽb o·nadunt lluyd+
aỽ ygyt ac ef am pen arthur y| estỽg. Ac yna y doeth+
ant ỽrth y wys hỽnnỽ. Epistroffus vrenhin groec.
Mustensar urenhin yr affric. Ac eliphant vrenhin
yr yspaen. Ac hirtacus vrenhin parth. A boccus
vrenhin midif. Sertorius brenhin libia. Serrex
vrenhin iturca. Pandrasius brenhin yr| eifft. E+
uander vrenhin siria. Misipia brenhin babilon.
Politetes duc bitinia. Teucer duc frigia. Echion
brenhin boeith. Jpolit brenhin creta. Ac y am hyn+
ny tywyssogyon | a ieirll a barỽneit. A marcho+
« p 218 | p 220 » |