Breudwd Welsh Prose 1300-1425
Cymraeg

NLW MS. Peniarth 10 – page 14v

Ystoria Carolo Magno: Pererindod Siarlymaen

14v

eu damunedic freinc. Ac wynteu a ymbaratoassant ac
a esgynnassant eu meirch gan ym annerch ar brenhin
a aethant dwylaw mwnwgyl. Ac a ymwahanas+
sant pob ỽn y wrth y gilyd yn dagneuedus. A|cher+
det ar vrys y freinc a oruc y emwelet ac eu hym+
geled. ac eu gwlat. ny|s ry welsynt ys llawer o
yspeit A llewenyd a oed yn chiarlymaen o|r dawn
ar anryded a rodassei yr arglwyd duw idaw. dare+
stwg brenhin kyn gyuoethoket kymoned kymint
y ỽedeant a|e deilygdawt a|e allu a hu gadarn heb
ỽrwydr heb ymlad heb gollet ar wyr heb ellwg
gwaet heb gewilyd na sarhaet Ac ual y bo byrr
y datkaneat o ymchweleat y freinc. ac a oed o|dae
eryd y·rygthunt ac eu gwlat ; wynt a|e hadawssant
Ac yn|y diwed wynt a|doethant freinc. Ac val y de+
lei bawp o·nadunt yw cartref. y kymerynt hir or+
fowys wedy eu blinder. y atnewydhau eu hiechyt.
Ar amera yr eissioes y kyueawnaf o|r brenhinoed
y geissiaw b duw yn|y blaen. a dynnawd parth ac
eglwys saint  enys y|wneuthur yno. y wedi yn ỽuyd
waredawc. ac y diolwch y duw hyrwydder. y bere+
rindawt a gweithredoed y drugared amdanaw. A
gwedy y gyuodi. o|e wedi. ef a ossodes offrwm teil+
wg ar y allawr. a rann ỽawr weirthiawc o|r krei+
rieu. Coron yr arglwyd. ac ỽn o|e gethri. a rannu y
kreirieu ereill y eglwysseu freinc. Ac yn|y lle hwnnw
y doeth y ỽrenhines. y erchi madeueint am y. hyma+
drawd. ac y|madeuwyt idi yn llwyr.
Hyt hynn y traetha yr Istoria a beris Reinallt vrenhin yr ynyssoed
y athro idaw y|throssi a|e hymchwelut o rwmawns yn lladin o wei+
thredoed chiarlymaen nyt amgen o|e amrysson ar ỽrenhines. ac yd
aeth gaerussalem. ac o|e gyurageu a hu gadarn. yr hynn nyt ymyrra+
wd turpin y draethu o·nadunt. kyt bydynt kyuyrageu arbennic o
achos bot yndunt. petheu a berthynei ar glot orwac. a|e petheu
tybyus y wrth wirioned kyn bydynt gwir. O hynn allan y traetha
ystoria turpin o ymladeu chiarlymaen vrenin. Ac val y darys+
tygawd yr yspaen yn  enw duw a yago ebostol. ar kyfrageu
hynny a yscriuennawd mal  y gweles a|e lygeit canys buassei
gyfoesswr a chyfrannawc yn y kyuyrageỽ y gyt ac ef.