NLW MS. Peniarth 11 – page 82v
Ystoriau Saint Greal
82v
a|oruc naciens pan y gỽeles yn|dyuot tu ac attaỽ heb dim ganth+
aỽ o|e amdiffyn. Ac yna dỽyn hỽyl y|r cledyf a|oruc a|e dynnu aỻan.
a|phan y gỽeles ef yn noeth. ny bu dim kyn|hoffet ganthaỽ ac oed.
ac yna y ysgytweit a|oruc yn|y laỽ. ac yr aỽr yr ysgytyaỽd ef a
dorres y cledyf yn deu hanner. Yna y|dywaỽt. och duỽ heb ef yr
hynn hoffaf gennyf yn yr hoỻ vyt. mi a|e kefeis yn waethaf. ka+
nys ef a vethaỽd ym yn vy reit. Ac yna roi y cledyf a|oruc ef
ar y gỽely gyt a|e wein. a|bỽrỽ neit o|r ysgraff a|oruc. ac ymlad
a|r kaỽr ac ar hynt y lad. A|gỽedy hynny ef a|doeth y myỽn
drachevyn. Ac yna ef a|drewis y gỽynt yn|yr hỽyl. a|r ysgraff
a|varchockaaỽd y|mor yny gyfaruu ac ef ysgraff araỻ. yn|yr
honn yr oed moradrins yndi. gỽedy y vot ynteu yn godef
ỻawer o brofedigaetheu kythreul yng|greic y bont beriglus.
A|phan weles pob un o·honunt y gilyd ỻawen vuant ual y dyly+
ei y neb y bei karyat maỽr y·ryngthunt. ac amovyn a|oruc
pob vn ohonunt am gyflỽr y gilyd. ac am eu|hanturyeu. Ac ̷
yna y dywaỽt naciens. Arglỽyd heb ef. yr pan weleist di vyui
ryueda dim vu gennyf a|weleis am y cledyf racko. ac yna dy+
wedut y gyfrangk a|oruc. Myn vyng|kret heb·y moradrins
ỻyna beth ryued. ac edrych ar dyỻeu* y cledyf a|oruc a|e hoffi
yn vỽy no dim. a|dywedut. Myn|vyng|kret i heb ef nyt yr|dryc+
yoni y torres y cledyf hỽnn namyn o achaỽs dy bechodeu di.
neu ynteu yr arwydockau peth araỻ. Ac yna moradrins a
dodes y dryỻ ỽrth y ỻaỻ. Ac yr|aỽr y kyssyỻtỽyt y neiỻ dryỻ ỽrth
y ỻaỻ. ef a|gyvannaỽd e|hun yn gyn|haỽsset ac y bu ganthaỽ
dorri. A phan welsant ỽynteu hynny ryuedach vu ganthunt.
« p 82r | p 83r » |