BL Additional MS. 19,709 – page 63v
Brut y Brenhinoedd
63v
y ewyỻus a|phressỽylaỽ y·gyt yn rvymedic o garyat. a ̷
mab a merch a vu udunt. ac enỽ y|mab uu arthur
ac enỽ y verch vu anna. a honno vu vam walch+
mei a|medraỽt. ac a vu wreic y leu vab kynuarch
herwyd gỽirioned yr ystoria.
A c odyna gỽedy mynet dydyeu ac amsero+
ed heibav yn diruaỽr glefẏt y dygỽydỽẏs
y brenhin. a gvedy y vot veỻy drỽy lawer o amser
blinaỽ a|wnaethant y gvyr a oed yn kadỽ octa ac
offa y|rei a goffayssam ni uchot. a|fo gyt ac vynt
hyt yn germania ac ofyn ac aruthred a|aeth o a+
chavs hẏnnẏ drvy yr hoỻ teyrnas. kanys y|chwedyl
a gatarnhaei eu bot gvedy kyffroi hoỻ germania
a ry|paratoi diruavr lyges vrth dyfot y distryỽ hoỻ
ynys. prydein. a hynny a daruu. kanys vynt a ymhoelas+
sant gyt a diruavr lyges ac anneiryf o nifer gan+
tunt ac yn yr alban y disgynassant ar dinassoed
a|r kiỽdaỽtwyr o|tan a|hayarn a dechruassant eu
molestu ac eu hanreithaỽ. ac vrth hynny hoỻ lu
ynys. prydein a orchymynỽẏt y leu vab kynuarch vrth
geissaỽ gỽrthlad y|r gelynyon a|r ỻeu hỽnnỽ jarỻ
kaer lyr oed y|marchaỽc gvychraf a deỽraf a|chlot+
uorusaf a doethaf oed ac aeduet o oet ac o|achaỽs
y|molyant a|r deuodeu da hynny yn|y glotuori
y brenhin a|rodassei anna y verch idaỽ a ỻywodra+
eth y|teyrnas hyt tra yttoed y brenhin yn gor+
wed yn|y glefẏt. a|r gvr hỽnnỽ gỽedy mynet
« p 63r | p 64r » |