NLW MS. 3036 (Mostyn 117) – page 202
Brut y Brenhinoedd
202
A guedy dechreu ymlad. Sef a| wnaeth y genedyl n +
eth diaryf truan heb vn gohir ymchoelut ar ffo. Ac
yna y delit gillamỽri. Ac y kymhellỽyt y darestỽg
y arthur. Ac o agreiff hỽnnỽ y doeth holl tywyssogy+
on y| gỽydyl oc eu bod y ỽrhau idaỽ. A guedy daruot
idaỽ gorescyn iwerdon. y kychwynnỽys a|e lyghes
parth ac islont. A guedy ymlad a|e phobyl y gorescy+
nỽys. A guedy clybot yn yr ynyssoed ereill nat oed
vn wlat a allei ỽrthỽynebu y arthur. Sef a| wnaeth
doldan vrenhin gotlont. A gỽinwas vrenhin orc
dyuot oc eu bod y ỽrhau y arthur. Ac y rodi teyrnget
idaỽ. A guedy llithraỽ y| gayaf hỽnnỽ heibyaỽ. ym+
choelut a| wnaeth arthur y ynys prydein. Ac atne+
wydhau y hansaỽd a chadarnhau tagnefed yndi. Ac
y bu yndi ar vn tu heb vynet ohonei deg mlyned.
A Guahaỽd a| wnaethpỽyt attaỽ guyr prouadỽy
clotuaỽr o wladoed ereill y achwanegu y teulu.
A chymeint oed syberwyt llys arthur a|e| teulu o voes
a gỽybot a haelder a dayoni a deỽred a| milỽryaeth.
ac nat oed dim gan neb o|r a|e clyỽhei ony allei ym+
gyffelybu idi. Ac nyt oed dim gan neb dylyedaỽc
o petyruanhoed byt ony bei vn diwygyat ac vn
o teulu arthur. A guedy ehedec dros pedyruanhoed
byt y ryỽ ỽr oed arthur. yd oed paỽb o|r brenhined
yn ergrynu rac ofyn eu guerescyn ohonaỽ. Sef a
wneynt cadarnhau eu kestyll ac eu kaeroed. Ac eu
dinassoed. A guneuthur ereill o newyd rac y ofyn.
A gwedy
« p 201 | p 203 » |