NLW MS. Peniarth 6 part iv – page 25
Geraint
25
A llawer dyn a haỽl arnat yn lloegyr. Ac y|r lle yd oed y varch
y doeth Gereint. Ac yd oed y varch yn gyweir o arueu trỽmloyỽ
estronaỽl. Ac erchi a oruc ynteu y enyd escynnu ar y
march a|cherdet o|r blaen a|chymryt ragor maỽr. Ac
yr a welych ac a glyỽhych arnaf|i heb ef nac ymchoel ti
trachefyn. Ac ony dywedaf|i ỽrthyti. na dywet ti vn ge ̷+
ir heuyt. A cherdet racdunt a orugant. Ac nyt y fford di ̷+
grifaf a|chyfanhedaf a peris ef y cherdet. namyn y fford
diffeithaf a diheuaf bot lladron a herwyr a bỽystuilet
kyndeiraỽc gỽenỽynic. A dyuot y prif ford a orugant.
A|e chanlyn. A choet maỽr a|welynt y ỽrthunt. A pharth
a|r coet y|doethant. Ac yn dyuot o|r coet allan y gỽelynt
petwar marchaỽc aruaỽc. Ac edrych a orugant arnadunt
A dywedut a oruc vn onadunt. LLyma le da inni y deu varch
racco a|r arueu a|r wreic heuyt. A hynny a gaffỽn yn se+
gur yr yr vn marchaỽc pentrỽm goathrist llibin racco.
A|r ymdidan hỽnnỽ a glywei Enyd. Ac ny wydyat beth
a wnaei rac ofyn Gereint. ae dywedut hynny ae tewi. Di+
al duỽ arnaf onyt dewissaf genhyf vy agheu o|e laỽ ef
nocet o laỽ arall. A chyt a|m lladho mi a|e dywedaf idaỽ
rac gỽelet agheu arnaỽ ef yn dirybud. A chyf·arhos gereint.
a|oruc hyny vyd yn agos idi. Arglỽyd heb hi a glywy
ti geireu y gỽyr racco ymdanat ti. Drychafel y ỽyneb
a|oruc ynteu. Ac edrych arnei yn llityaỽc. Nyt oed reit
it namyn kadỽ a erchit itt y geir. Sef oed hynny tewi.
Nyt amgeled genhyf ac nyt rybud y teu. A chyt myn+
nut ti welet vy agheu i a|m diuetha o|r gỽyr racco
nyt oes arnaf|i vn argyssỽrỽ. Ac ar hynny estỽg gỽayỽ
« p 24 | p 26 » |