NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 26r
Buchedd Fargred
26r
Onny threwy ti vivi ny bydy gyurannavc o lewenyd paradwys ygyt a mi. Ac y diwei+
navd y poenwr y gledyf ac y lladaud y phenn ar vn
dyrnnavt ac ar y dyrnnavt hvnnv y dyvat hi Argluyd nac ymliw a| r neb yssyd y| m
dienydyav am y gweithret hvnn. Y gwr a| e trewssei ar y geir hvnnv dan grynv a dy+
gvydavd y| r llaur yn varw ac yna y disgynnasant egylyonn Duv ac y ducssant y heneit hi
y nef dann voli Duv a dyvedut val hynn Argluyd nyt oes Duv tebic yti yn yr holl dwy+
weu ac nyt oes Duv vnryv y weithredoed a thi. Sant Sant Sant wyt ti heb wynt
hyt ym| penn teir gweith o achaus y trindaut ac Argluyd Duw yr holl luyoed a| r holl ner+
thoed kyulavnn yw y nef a| r daear o| th ogonnyant ti. Jacha di vi yg goruchelder nef. Bendi+
gedic vo brenhin yr Israel a doeth yn env Duv. Cleiuon gwedvon a gveinon
a chloffyon a mudyon a bydyeir ac ynvydyonn kythreulic a doe+
thant eti y geissav gvaret a| e gwaret a gawssant oc eu heint a| e cleuydyeu drvy
obrvyeu gwynvydedic Margret santes amen.
XVIIMinhev hagen Theotimus a dugum corff gwynvydedic Vargret ac a| e gossodeis myvn betra+
vt gvedy chyweirav ac ireideu guerthuaur yn ynrydedus. A mi a wassannaethaud idi y tra
vu yn y charchar ac a yscriuenneis y hamryssoneu hi a| e budugolaethev y rei a oruc
hi ynn erbynn Oliver enwir. Diodef hagen a wnnaeth hi vis Gorffennaf deudecvettyd
kynn Calan Avst truy rat a rodes yn iachvyavdyr Iessu Grist y gur yssyd vyv a phyth
a vyd vyv. ac a wledycha truy oes oessoed heb diwed a heb orffenn yn tragywydaul. Idav
y bydo pob gvir volyant a thragywydaul ogonnyant y|gann yr holl greaduryeit ac
y mynhev madeueint oc yn pechodeu a guir lewenyd didiffic diorffenn gyt a| r tat a| r
mab a| r Yspryt Glann. Amen.
« p 25v | p 26v » |