NLW MS. Peniarth 6 part iv – page 24
Geraint
24
A dywedut. Gỽae vi heb hi os o|m hachaỽs i y mae y bre ̷+
icheu hi a|r dỽy·vron yn colli clot a milỽryaeth kyme+
int a oed eidunt. A chan hynny ellỽg y dagreu yn hid ̷+
leit hyny dygỽydassant ar y dỽy·vron ef. Ac vn o|r peth ̷+
eu a|e deffroes ef uu hynny. A medỽl arall a|e kyffroes
ynteu nat yr amgeled ymdanaỽ ef y dywedassei hi hy ̷+
nny. namyn yr ystyryaỽ karyat ar ỽr arall drostaỽ ef.
A damunaỽ ysgyfalỽch hebdaỽ ef. Ac ar hynny llityaỽ
a oruc gereint trỽy anhagnefed yn|y vedỽl. A galỽ ar ys+
gỽier attaỽ. Par yn gyflym heb ef kyweiraỽ vym
march a|m harueu. A phar eu bot yn baraỽt. A chyfot
titheu heb Enyd a gỽisc ymdanat. A phar gyweiraỽ
dy varch. A dỽc y wisc waethaf ar dy helỽ ỽrth varcho+
gaeth. A meuel imi heb ef o deuy ti yma hyny ỽyp+
ych a|golleis|i vyn nerthoed yn gyn gywiret ac y dywe ̷+
dut ti. Ac ygyt a hynny o byd kyn yscyfalhaet itti ac
yd oed dy damunet y geissaỽ yscyfalỽch am y neb yd o+
edut yn medylyaỽ ymdanaỽ. A chyfodi a oruc hitheu
a gỽiscaỽ yscaeluswisc ymdanei. Ny ỽn i dim o|th ve ̷+
dỽl ti arglỽyd heb hi. Ny|s gỽybydy ti yr aỽr·hon heb
ef. Ac yna yd aeth Gereint y ymwelet ac erbin. A ỽr·da heb
ef. y neges yd ỽyf|i yn mynet. Ac nyt hyspys genhyf
py bryt y deuaf trachefyn. A synhya ti ỽrda heb ef ỽrth
dy gyfoeth hyny delhỽyf i trachefyn. Mi a|wnaf heb
ef ac eres yỽ genhyf mor deissyuyt yd ỽyt yn my ̷+
net. A|phỽy a gerda gyt a|thi. ỽrth nat ỽyt ti ỽr y ger ̷+
det tir lloegyr tu hunan. Ny daỽ gyt a|miui nam ̷+
yn vn dyn arall. Duỽ a|th gygho* nu mab heb·yr er+
bin
« p 23 | p 25 » |