NLW MS. Peniarth 31 – page 19v
Llyfr Blegywryd
19v
guerth sarhaet a galanas y dyn a ladher. Ac yn
gyntaf y tal y llofrud guerth sarhaet y dyn yr tat
ar vam ar brodyr ar whioryd. Ac os gỽreicaỽc uyd;
y wreic a geiff y gan y rei hynny trayan gwerth sar+
haet y gỽr. Gỽerth dyn a lather yn teir ran y
rennir ar y rei a|e|talho. Y ran gyntaf a disgyn
ar y llofrud ar tat ar vam ar brodyr ar wihoryd.
Ar dỽy ran ar y genedyl. Y ran gyntaf a|rennir
yn teir ran. Vn ar y llofrud e|hunan. ar dỽy
ar y vam a|e tat a|e vrodyr a|e whioryd. Ac o|r
gwyr hynny kymeint a tal pop vn a|e gilyd.
Ac uelly o|r gỽraged eithyr na thal gỽreic nam+
yn kymeint a hanher ran gỽr. A ran gyntaf
hon y vam a that a brodyr a|chwioryd y neb a
lather y telir. A|e sarhaet uelly. kany lethir
neb heb sarhaet. Y dỽy ran a|dodet o|r dechreu
ar genedyl y llofrud a rennir yn teir ran. y dỽy
ran ar genedyl y tat. ar tryded ar genedyl y
vam. y kyfryỽ gereint a talant alanas y gyt
ar llofrud; y kyffelybyon o pleit y dyn a ladher
a|e herbynnyant o|r gorhengaỽ hyt y gorchaỽ.
Ual hyn yd enwir achoed kenedyl a dylyhỽ+
ynt talu galanas. neu gymryt tal. kyntaf
ach o|r naỽ yỽ tat a mam y llofrud neu y llad+
« p 19r | p 20r » |