BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 145r
Brenhinoedd y Saeson
145r
redud. Ac y derbynnawd yntev ef yn llawen
ac y dodes gevyn arnaw ac y ketwys yny doeth
Oweyn vab Cadogon. Ac yna y rodi y Oweyn;
a llawen uu Oweyn o|y gael. ac a berys y dallu.
Ar hyn a oed idaw o gyuoeth ym|phowys wynt
a|y rannassant rygthunt. Sef oed hynny; ker+
einion. a thraen deudwr. ac aberriw. Pan oyd
oet crist.mcxi. y kyffroas henri vrenhin y lu
y tu a Gwyned a phowys. canys nev yr daroed
y Gilbert vab Richart kyhudaw Oweyn wrth
y brenhin. y vot yn derbynneit lledradev yw
gyvoeth o gyuoethev ereill; ac yn ev kynnal.
Ac nev yr daroed y vab hywe Jarll caer llion
kyhudaw Grufud vab kynan. a Goronw vab
Oweyn hevyt. Ac yna y manesseynt diva holl
kymre hyt na bei atkyuot vdunt tragywyd.
Ac yna kynullaw llu a oruc y saesson o|r van
eithiaf o Gyrnyw lle gelwir pengwayd; hyt
y vann eithiaf o brydyn lle gelwir pen blatha+
on. A chyt tyngkv nat edewit dyn bew yn kym+
re. A gwedy klywet o voredud vab bledyn hyn+
ny kyrchu y brenhin a oruc; a dygymot ac ef.
Oweyn vab bledyn a|y wyr a aethant hyt yn
Erryri. canys hausaf oed vdunt yno amdif+
fyn rac ev gelyneon. Ac yna y gyssodas y
brenhin tri llu; vn gyt a Gilbert Jarll. holl
dehev lloegyr a chyrnyw. y vynet y deheubarth
kymre. Arall gyt ac Alexander vab Moelky+
lum. a mab hywe Jarll caer llion a holl prydyn
« p 144v | p 145v » |