NLW MS. Peniarth 11 – page 106v
Ystoriau Saint Greal
106v
Na|vynnaf heb ynteu. namyn hynn a|vynnaf y wneuthur
yr disgyblaeth y|m deudec disgybyl i. kanys megys y bỽyta+
ỽssant ỽy yỻ|deudec gyt ar dabyl seint greal nos|diuieu ca+
blut. veỻy y bỽytaỽssaỽch chỽitheu yr aỽr·honn ar dabyl se+
int greal gyt a|mi. ac yd yỽch chỽi deudec megys yd|oedynt
ỽynteu. a minneu yssyd drydyd ar|dec gyt a|chỽi yn veistyr
arnaỽch ual yd oedỽn yn veistyr arnadunt ỽynteu. A megys
y gyrreis i ỽyntỽy y bregethu ar|hyt y byt. veỻy y gyrraf
inneu chỽitheu y|ỽch anturyeu a|r gret a|welsaỽch. ac yn|y
gỽassanaeth hỽnnỽ y|byd marỽ pob vn o·honaỽch. ac ar hyn+
ny roi y uendith udunt a|oruc ac ymdifflannv y ganthunt
hyt na wybuant ỽy y ba|le yd aeth ef namyn y welet yn
mynet tu a|r nef. Y nos honno ynghylch hanner nos gỽ+
edy daruot y galaath a|e gedymdeithyon wediaỽ duỽ. ar|uot
yn iachwyaỽdyr oc eu heneidyeu pa|le|bynnac yd elynt.
wynt a glywynt lef yn dywedut. Vy meibyon i eỽch chỽi
ymeith y gerdet ỽrth aỽch anturyeu. a phan glyỽssant ỽy
hynny ỽynt attebassant yr vnỻef. Tat o nef bendigedige*+
dic vych di am vot yn|gywiỽ gennyt yn|galỽ ni yn veiby+
on ac yn gedymdeithyon ytt. Ac yna y|kychwynnassant ỽy
o|r ỻys ac y doethant y|r gatlys. ac yno y kaỽssant veirch ac
arueu. ac ymeith y kerdassant yr aỽr y daruu udunt wisgaỽ
eu harueu. a|gỽedy daruot udunt adaỽ y casteỻ. yna ef a ymofyn+
naỽd pob vn onadunt pa rei oedynt ual y geỻynt ymgyfadnabot.
Ac yna pob vn a|dywaỽt y gilyd pa vn oed. a|phan ymwahan+
yssant paỽb onadunt a|aeth dwylaỽ mynỽgyl a|e|gilyd. A|phob|vn
« p 106r | p 107r » |