NLW MS. Peniarth 31 – page 5r
Llyfr Blegywryd
5r
Naỽd y troydaỽc yỽ o|r pan dechreuho eisted dan
trayt y brenhin hyt pan el o|e ystauell. Naỽd y
medyc yỽ o|r pan el o arch y brenhin y ofỽy y claf o|r
llys; hyt pan del yr llys drachefyn. Naỽd gwast+
raỽt brenhines; kyffelyb yỽ y naỽd gwastraỽt
y brenhin. Naỽd y kynudỽr yỽ; hyt y lle pell+
af yd el y gynutta a chymeint ac a allo y uỽrỽ a|e
ỽdyf. y porthaỽr ar kynutei nyt ynt o rif y pet+
war sỽydaỽc ar hugeint.
Kyn no hyn y dywespỽyt am noduaeu y petwar
sỽydaỽc ar hugeint; pỽy bynhac o·honunt a tor+
rer y naỽd. neut sarhaet idaỽ. O|r medeginaytha
y medyc llys neb vn brathedic o wyr y llys hyt
pan vo iach; y vaedwisc a geiff ef. ar tudedyn ỽch+
af yr brenhin pan ymwelo gyntaf ac ef.
Am y noduaeu y dywespỽyt kyn no hyn; wei+
thon y dywedun peth a dylyir y talu dros sarha+
et paỽb a|e werth. SArhaet penteulu; yỽ trayan
sarhaet y brenhin. A|e werth yỽ trayan gwerth
y brenhin. a ffob vn a heb eur a heb aryant.
Sarhaet pop vn o|r rei hyn yỽ; nyt amgen.
Distein. Pen kynyd. Pen gwastraỽt. Braỽd+
ỽr llys. Hebogyd. Gwas ystauell. Morỽyn ysta+
uell. naỽ mu a naỽ vgeint aryant. Gwerth
« p 4v | p 5v » |