NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 49v
Credo Athanasius, Gorchestion
49v
da y gyffylyprvyd vn o beth. Canys pann wnelher o eneit a chorff vn dyn nyt dyn yr eneit ac nyt dyn y
corff namyn yr holl peth kysselldedic o eneit a chorff yssyd y dyn. Duv hagen a dyn kynn boent hvy
vn Iessu Crist Crist val kynt yssyd Duv a dyn cvbyl ac nyt peth trydyd kyssylldedic neu gymyscedic
o Duv a dyn yv Iessu Grist mal y kymyscir dyn o eneit a chorff.
Iessu Grist yr hvnn a diodeuaud yr an guaret ni a disgynnavd y vffernn a| r trydydyd y kyuodes
o veirv. Ac ef ymdyrchauavd y nef ac y mae yn eisted ar deheu y Tat Duv Hollgyuoethauc. Na thebyget
neb hagen vot y| r Tat duvylav corfforaul llav deheu a llav asseu megys y mae y Iessu Grist am y
vot yn dyn. Eisted weithon ar deheu y Tat Duv yv kydwledychu ac ef yn esmvyth ac yn diyscoc
ac yn enrydedus megys pennadur. Canys mynych yv dodi y neb pennaf wedy yr argluyd ar y llav
deheu. Ac odyna y dav ef y varnnv byv a marv. A phann del y varnnv y kywynnant yr holl dynyon
o veirw yn y corfforoed ac yn y heneitteu ac y wrthep ac y talu dylyet dros eu gueithredoed. A
phvy bynnac a gueithredoed da gantav a ordiwedher y rei hynny a ant y teyrnas gvlat nef
ac a gaffant buched tragywyd. Pvy bynnac hagen a ordiwedher a gveithredoed druc gantav
a a y tan vffernn a phoennev. Honn weithonn yv Ffyd Gyffredin y cristonogyon a phvy bynnac
ny chattuo y ffyd honn yn ffydlavn ac yn diyscoc ac ny chretto val hynn ny byd idav ymwaret na
iechyt y eneit ynn tragywydaul.
Credo Anastasius Sant y geluir yr hynn a traethvyt yma hyt hynn a| r braut Gruffut Bola a| e
troes o| r Lladin yg Kymraec yr caryat Eua verch Varedud ap Ywein a| e henryded.
*Py oet vu Adaf. Deudeg mlyned ar| hugeint a naw cant. Pwy yw y dyn ny anet. Adaf ny anet
namyn ef a grewyt. Pwy a gladwyt yg| kallon y vam. Adaf a gladwyt ynn y dayar.
Pwy a vettydywyt yg| kallonn y vam guedy varw. Adaf. Pwy yssyd yn wylyaw yn wastat ym
paradwys. Ely ac Enoc. Pwy gynntaf a alwawd enw yr argluyd. Enoc. Pwy a vu varw ac
ny anet. Adaf. Pwy enweu y pedeir seren y cahat enw Adaf ohonunt. Anattoloe Disis Artos
Mensebrios. Pwy enweu y pedeir auon a redant truy baradwys. Tigris Geon Physoun Euffrates.
Pwy a rodes llaeth ac ny|s kymerth. Eua. Pwy a offrymwys y Duw o| r daear yn gynntaf. Abel
a offrymaud oen. Pwy gynntaf a lygrwys y daear. Kain pan ladawd y vraut Abel. Pwy
yr offeirat kynntaf a vu. Melsisedec. Py saul mab a vu y Adaf. Deg meib ar| hugeint a
dec merchet ar| hugeint. ac Abel a Chayn yn achuanec. Pwy gyntaf a rodes llythyr.
Enoc braut Lareth a thrugeint mlyned a thrychant y buant ar y daear yn pressuylaw.
Py saul blwydyn y bu Noe yn gwneuthur y long. Deucant mlyned a thrychant cufyt
The text Gorchestion starts on line 38.
« p 49r | p 50r » |