BL Harley MS. 4353 – page 44v
Llyfr Cyfnerth
44v
kymryt o|r vn gỽr yr vn wreic o rod kenedyl
A chaffel mab o·honei. ny dyly y mab hỽn ̷+
nỽ kyfrannu tir a|r mab a gahat kyn
noc ef yn llỽyn a| pherth. Eil yỽ kymryt
o yscolheic wreic o rod kenedyl. a chaffel
mab o honno. Ac odyna kymryt vrdeu
effeiradaeth o|r yscolheic. A gỽedy hynny
kaffel mab o|r effeirat hỽnnỽ o|r wreic kynt.
ny dyly y mab kyntaf kyfrannu tir a|r
diwethaf. kanys yn erbyn dedyf y kah ̷+
at. Trydyd yỽ mut. kany dyly tir net*
atteppo drostaỽ. kany rodir gỽlat y uut.
TRi dyn a gynnyd eu breint yn vn
dyd. Tayaỽctref y kysseccrer eglỽys
yndi. gan ganhat y| brenhin. dyn o|r tref
honno a uei y bore yn tayaỽc. A uydei y
nos honno yn ỽr ryd. Eil yỽ dyn y rotho
y brenhin idaỽ vn o|r pedeir sỽyd ar huge+
int breinhaỽl. kyn rodi y sỽyd idaỽ yn
tayaỽc; a gỽedy y rodi yn ỽr ryd. Trydyd
yỽ yscolheic y dyd y kaffo corun y bore yn
vab tayaỽc. A|r nos honno yn ỽr ryd.
TRi gỽerth kyfreith beichogi gỽreic.
Vn yỽ gỽaet kyn delwat o|r collir
trỽy greulonder; ỽyth a deu vgeint a
« p 44r | p 45r » |