NLW MS. Peniarth 36A – page 38r
Llyfr Blegywryd
38r
gaỽn y etiued dỽyn y tir rac hỽnnỽ o gyfreith.
O Tri mod yd holir tir; o gam werescyn.
Ac o datanhud trỽy vedyant tat neu
vam hyt agheu. ac o ach ac etryt. kyny
thyccyo gofyn tir or mod kyntaf nac or eil.
ny byd hỽyrach no chynt y keffir or trydyd.
Tri cham werescyn yssyd. gỽerescyn yn er+
byn y perchenhaỽc oe anuod a heb vraỽt.
neu werescyn trỽy y perchenhaỽc ac yn
erbyn y etiued oe anuod a heb vraỽt. neu
werescyn trỽy wercheitwat ac yn erbyn
y iaỽn dylyedaỽc. oe anuod a heb vraỽt.
Perchenhaỽc yỽ y neb a uo yn medu y
dylyet dilis. Gỽercheitwat yỽ y neb a gyn ̷+
halyo neu a warchattwo dylyet dyn arall.
O Tri mod y dosperthir dadyl datan+
hud rỽg etiuedyon. nyt amgen
trỽy tri breint anyanaỽl. kyntaf yỽ;
breint oet rỽg yr hynaf ar ieuhaf. Eil
yỽ breint priodas rỽg etiued kyfreith ̷+
aỽl ac vn aghyfreithaỽl. kanys y kyfrei ̷+
thaỽl ae keiff oll. Trydyd yỽ breint dylyet.
« p 37v | p 38v » |