NLW MS. Peniarth 6 part iv – page 40
Geraint
40
yn tynnu pebyll yn ystlys y fford. Arglỽyd heb·y Gereint. han+
pych gỽell. Duỽ a rotho da itt heb·yr arthur. A pỽy ỽyt ti.
.Gereint. heb·y gỽalchmei yỽ hỽn. Ac o|e vod nyt ymwelei a thidi
hediỽ. Je heb·yr arthur yn|y aghyghor y|mae. Ac ar hynny
enyd a doeth yn|yd oed arthur. A chyfarch gỽell idaỽ. Duỽ
a rotho da itt heb·yr arthur. kymeret vn hi y|r llaỽr. Ac vn
a|e kymerth. Och a enyd heb ef py gerdet yỽ hỽn. na
ỽn arglỽyd heb hi. namyn dir yỽ imi kerdet y fford
y kertho ynteu. Arglỽyd heb·y gereint. ni a aỽn ymdeith
gan dy ganhyat. py le uyd hynny heb·yr arthur. Ny elly
ti vynet heb·yr arthur onyt ey y orffen dy agheu. Ny adei
ef i|mi vn gỽahaỽd arnaỽ. heb·y Gỽalchmei. Ef a|e gat i|mi
heb·yr arthur. Ac ygyt a hynny nyt a ef odyma hyny vo
iach. Goreu oed genhyf|i arglỽyd pei gattut ti vyui ym ̷+
deith. Na adaf yrof|i a duỽ heb·yr arthur. Ac yna y peris ef
galỽ ar vorynyon yn erbyn enyd. o|e dỽyn y ystauell
wenhỽyfar. A llawen uu wenhỽyfar a|r gỽraged oll ỽrthi.
A gỽaret y|marchaỽcwisc y amdanei. A rodi arall ymda ̷+
nei. A galỽ ar katyrieith a oruc arthur. Ac erchi tynnu idaỽ
pebyll y ereint. a|e vedygon. A dodi arnaỽ peri diwallrỽyd o
pop peth mal y gofynnet idaỽ. A hynny a oruc katyrie ̷+
ith. A dỽyn Morgan tut a|e discyblon a oruc at ereint. Ac yno
y bu arthur a|e nifer agos y vis ỽrth vedeginaethu Gereint. A
phan oed gadarn y gnaỽt gan ereint. y doeth ar arthur y erchi
canhat o|e vynet y hynt. Ny ỽnn i a ỽyt ti iaỽn iach ti et ̷+
wa. ỽyf ys gỽir arglỽyd heb·y Gereint. Nyt tidi a|gredaf|i am
hynny namyn y medygon a uu ỽrthyt. A dyfynnu y
medygon attaỽ a oruc. A gofyn udunt a oed wir hynny.
« p 39 | p 41 » |