Breudwd Welsh Prose 1300-1425
Cymraeg

BL Cotton Cleopatra MS. B V part i – page 17v

Brut y Brenhinoedd

17v

kennadeu hyt yn ynys brydein y eruynieit yr
brenhin cordeilla y verch yn wreicka idaw. ac
ynteu a|e hedewis. ac a venegis yr kennadeu na
chaffei ef na thir na daear na da arall o ynys
brydein genthi. Ac aganipus a|dyuat nad oed
reit idaw ef wrth y|dir na y|daear na y|da. o+
nyt y verch vonhedic dyledawc y planta o+
honei etiuedion deduawl. Ac ny bu golud yny
gymyrth aganipus y vorwyn y briawt. ac ny
welas neb yn yr oes honno morwyn kyn dec+
get na chyn doethet a hi.
A gwedy llithraw talym o amser a dechreu
o lyr llesgu o|heneint. y doeth y dowion gan
y dwy verchet ac y goresgynassant yr ynys o|r
mor pwy gilid. ac y rannassant yr ynys ar lly+
wodraeth rygthunt yll deu. sef oed hynny gwe+
dy diliw.moccccolx. mlyned. Ac yna y kymyrth
maglaun tywyssauc yr alban y brenhin attaw
a deugeint marchauc gyd ac ef y eu gosmeithaw
ar y ossymeith ef. ac ny doeth penn y dwy vlyn+
ned kwbyl yny lidiawd Goronilla rac meint
niveroed y|that. a dyuot a oruc attaw ac erchi
idaw ellwng y niveroed hynny ymeith oll di+
eithyr vgein marchauc. a dywedud bod yn di+
gawn hynny y wr ny bei ryueloed arnaw na
chyfrangheu. Ac yna llidiaw a oruc llyr wrth
y verch am y dremygu yn gymeint a hynny.
Ac adaw llys maglaun a oruc. a chyrchu llys
henwyn tywyssawc kernyw o dybygu caffel