NLW MS. Llanstephan 27 (The Red Book of Talgarth) – page 147r
Purdan Padrig
147r
ef. ac eissoes mal y gaỻaỽd dan ucheneidyaỽ ef a alwaỽd enỽ
Jessu grist. ac ar hynt grym y fflam a|e taflaỽd ef y|r awyr gyt
a|r ỻeiỻ. a disgynnu geyr·ỻaỽ y pydeỽ yn|y sefyỻ a|oruc. a|phan
yttoed ef yn sefyỻ ueỻy heb wybot pa|le yd aei. nachaf diefyl
ereiỻ yn dyuot o|r py·deỽ. nyt ym·adwaenat ef ac ỽynt. a|r
rei hynny a dywedassant ỽrthaỽ. Beth a sefy di yma. ae yma
y dywaỽt yn kedymdeithon ni ytti vot uffern. kelwydaỽc vu+
ant ỽy. an dedyf ni yỽ dywedut kelwyd yn wastat. hyt pan
dwyỻom ni trỽy gelwyd y neb ny aỻom y dỽyỻaỽ trỽy wir
Nyt yma hagen y mae uffern. namyn yn|y ỻe y dygỽn
ni di idaỽ yr aỽr·honn. Ac odyna y tynnassant ỽy y mar+
chaỽc. a chadwyneu maỽr aruthyr ganthunt y auon ly+
dan a|ỻyuedic oed. a|gỽedy y henynnu yn vn fflam o dan
brỽnstanaỽl. ac yn gyflaỽn o diefyl. Ac yna y dywedassant
ỽy ỽrth y marchaỽc. dan yr auon honn y|mae uffern. ac
yd adnabydy di bot uffern. a|r diefyl a dywaỽt ỽrthaỽ ef.
Reit yỽ ytti gerdet ar|hyt y bont honn yma drỽod. a ninneu
a gyffroỽn wynnoed maỽr a thrysteu a tharaneu ỽrth dy
vỽrỽ di y|ar y bont yn|yr auon. a|n kedymdeithyon ninne+
u yssyd yno a|th gymerant ti ac a|th|sodant yn uffern.
Ni a vynnỽn hagen yn gyntaf profi pa|diogelet uo ytti
vynet y|r bont. a|dala y laỽ a|e ffrydyaỽ a|orugant. Tri
pheth oed ofnaỽc hagen y|r neb a gerdei y bont honno. yn
gyntaf rac culet y bont. o chaffei neb le y ossot y droet
arnei abreid oed y gael. a|r eil peth ky veinet oed. ac yd
oed ameu y neb gaỻu sefyỻ arnei rac y chulet. Y trydyd
peth oed ofnaỽc. rac uchet y dyrchafei y bont yn yr awyr
« p 146v | p 147v » |