NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 144v
Brut y Tywysogion
144v
esgob bangor a vuant veirỽ. A chyngen vab elised a|wenỽynỽyt
ac eueurys escob mẏnyỽ a vu varỽ. Ystrat clut a diffeithỽyt
y|gan y|saesson. A howel da vab cadeỻ vrenhin. pen a molyant
yr hoỻ vrytanyeit a vu varỽ. a chadỽgaỽn vab ywein a las y
gan y|saeson. ac yna y bu weith carno rỽg meibon hywel a
meibon Jdwal. Deg mlyned. a deugein a naỽ cant. oed. oet. crist. pan
diffeithaỽd jago a ieuaf meibon Jdwal dyfet dỽyweith. ac
yna y|bu varỽ dyfynwal a|rodri meibon hywel. ac yna y|bu
ladua vaỽr rỽg meibon Jdwal a|meibon hywel yg|gweith
conỽy yn ỻan·ỽrst. ac y ỻas hir maỽr ac anaraỽt y gan y
pobloed. Meibon oed y rei hẏnẏ y|ỽrẏat. a gỽedy hẏnẏ y dif+
feithỽẏt keredigyaỽn y gan veibon jdwal. ac y bu varỽ etwin
vab hywel. ac y|bodes hayardur vab Meruyn. ac y ỻas conga+
lach brenhin jwerdon a gỽgaỽn vab gỽryat. ac y|bu yr haf
tesaỽc. ac y|bu diruaỽr eira vis maỽrth. a|meibon idwal yn
gỽledychu. ac y diffeithaỽd meibon abloec gaer gybi a ỻeyn.
Trugein mlyned. a|naỽcant oed. oet. crist. Pan las jdwal vab rodri. ac y
ỻas meibon gỽyn. ac y|diffeithỽyt y|tywyn y|gan pobloed
ac y|bu varỽ meuruc vab catuan a ryderch esgob a|chatwaỻ+
aỽn vab ywein. ac yna y|diffeithaỽd y|saesson ac aluryt yn|dy+
wysaỽc vdunt vrenhin·aetheu meibon jdwal. ac y|ỻas rodri
vab idwal ac y diffeithỽyt aberffraỽ. a|gỽedy hyny y delis iago
vab jdwal. Jeuaf vab jdwal y vraỽt. ac y|karcharỽẏt.
« p 144r | p 145r » |