Cambridge Trinity College MS. O.7.1 – page 59v
Llyfr Blegywryd
59v
Tri gỽrtheb yssyd. adef. neu wat
neu amdiffyn. Nyt cỽbyl vn gỽat
hyny talher cỽbyl reith a perthyno
ỽrth y dadyl. na llỽ vn dyn. na llỽ
lliaỽs. Lle y perthyno reith gỽlat;
yno y dyly y brenhin kymell reith ̷+
wyr y greir y tygu yn dylyedus
gyt ar gỽadỽr neu yn|y erbyn ar
eu dewis. Reith gỽlat yỽ llỽ degwyr
a deugeint o wyr tiryaỽc dan y bren ̷+
hin. Y lle ny pherthyno reith gỽlat
yno y dyly y gỽadỽr keissaỽ reithwyr
trỽy e hunan mal y barnher idaỽ.
Nyt cỽbyl vn amdiffyn hyny el det ̷+
uryt gỽlat ymdanaỽ rỽg yr haỽlỽr
ar amdiffynnỽr gan tygu yn dyly ̷+
edus y vot yn wir. neu nat gỽir.
Ac yno heuyt y brenhin a dyly kym+
hell y wyr yr creir y tygu eu dewis.
Lle y perthyno deturyt gỽlat; gỽyr
y llys oll bieu tygu eithyr y rei a
allo y kynhenusson eu llyssu o gyf ̷+
reith. Teir kynefaỽt yssyd; kynef ̷+
aỽt a erlit kyfreith kynhalyadỽy
« p 59r | p 60r » |