NLW MS. Peniarth 11 – page 160r
Ystoriau Saint Greal
160r
yn|y pebyỻ y ỻe y gỽaredeist di yr aruer drỽc. Ac yna gỽalch+
mei a|esgynnaỽd ar y varch yn aruaỽc. Arglỽyd heb y marchaỽc
myui a|aỽn y|th gymhorth di pei arhout ym wisgaỽ vy arueu.
G walchmei y·na a gerdaỽd racdaỽ o nerth traet y varch.
ac a|doeth y|r fforest ac a|arganvu gỽaet y marchaỽc
fford y kerdassei ar draỽs y gỽeỻt. Marchogaeth a|oruc ef yn+
y|doeth ỻe y clyỽei dyrnodeu pob vn onadunt ar y gilyd. Ac
ar|hynny arganuot a|oruc gỽalchmei y|myỽn ỻannerch y
tri marchaỽc. a|r pedweryd yn uarỽ. ac vn o|r tri heuyt a|oed
ar y ỻawr heb aỻel mỽy o|r ymlad. kanys y marchaỽc a|dath+
oed a|r chỽedleu y walchmei a|e brathassei yn drỽc. a|r|deu ereiỻ
a|oed yn ymlad yn ffest a laỽnslot. ac ynteu gỽedy blinaỽ yn ua+
ỽr o achaỽs y dyrnodeu a|rodassei ac a|erbynnassei. ac ar hyn+
ny gỽalchmei a|drewis vn trỽydaỽ yny vyd dan draet y
varch y|r ỻaỽr. Pan wybu laỽnslot a|oed yno diruaỽr leỽ+
enyd a|vu y·ryngthunt. a|thra vuant ỽy yn ymgaru y pe+
dweryd o|r marchogyon a|ffoaỽd. Ac yna gỽalchmei a|dyw+
aỽt ỽrth laỽnslot vot y ỻetty tlottaf o|r a|welsynt eiryoet.
a|r morynyon teckaf. ac heb dim diỻat udunt. ac am hynny
ni a|dygỽn udunt yn enniỻ ni. Gỽnaỽn yn ỻaỽen heb·y la+
ỽnslot. namyn drỽc yỽ gennyf i diangk y|marchaỽc araỻ
y gennym. Pa|drỽc heb·y gỽalchmei. ni a aỻỽn vot ar hynn
wers. ymchoelut drachefyn tu a|r casteỻ tlaỽt a|orugant. a
disgynnu. A|r marchaỽc tlaỽt a|r|dỽy unbennes a|doethant
yn|y herbyn. a|laỽnslot a gỽalchmei a|erchis udunt gym+
ryt y meirch a|r arueu. a gỽneuthur a|vynnynt ohonunt.
« p 159v | p 160v » |