NLW MS. Peniarth 35 – page 112r
Llyfr y Damweiniau
112r
*POb kyulauan a wnel dyn o|e anuod
diwyget o|e uod. O llad dynyon
ynuyt dynyon pỽyllaỽc. Taler ga+
lanas drostunt mal dros dynyon ereill Ca+
nys kenedyl a dyly eu cadỽ rac gỽneuthur
cam o·nadunt. Pa dyn pỽyllaỽc byn+
hac a ladho ynuyt. Talet galanas mal gala+
nas dyn pỽyllaỽc. Ny diwygir sarhaet
a gaffer gan ynuyt. Ac ny diwygir sarha+
et a gaffo ynteu. Nyt gỽneuthuredic
dim o|r a| wnel dyn medỽ. Na mach a| rodho
yn| y ueddaỽt. Na ffyd arall a adawho. O deruyd.
bot dyn yn gyndeiraỽc. A brathu dyn arall
o·honaỽ a|e danhed. Ac o|r brath hỽnnỽ dy+
uot angheu yr dyn. Nys diỽc kenedyl yr
ynuyt ef Canys o annỽyt yr heint y colles
y llall y eneit. Dyn mut ny thelir sar+
haet nac atteb o dyn arall idaỽ. Cany dy+
weit e| hun y dylyu o·honaỽ Onyt arglỽyd
a| trugarhaa vrthaỽ. rodi dyn a dywetto
drostaỽ. Byddeir a| deillon ny mỽynheir dim
o|r a dywettỽynt yn dadleu. Cany welas y
neill. Ac na chigleu y llall onadunt. vrth
hynny ny mỽynheir dim o|r a dywetỽynt.
Pob anaf arall o|r a| uo iach y clusteu a lyge+
it. kymeredic yỽ eu hymadraỽd. Dyny+
on aghyuyieith ny vyper pa dywettỽynt
ac ny vypont wynteu py dywetter vrth+
The text Llyfr y Damweiniau starts on line 1.
« p 111v | p 112v » |