NLW MS. 3036 (Mostyn 117) – page 183
Brut y Brenhinoedd
183
chynhal yr ymlad. Ac ymrodi a oruc ynteu y geluyd+
dodeu myrdin. Ac yna y| rodes myrdin arnaỽ ef
drych Gorlois. Ac ar vlfin drych iỽrdan o tintagol.
Ac arnaỽ e| hun drych brithael arall. megys nat oed
neb o|r a|e guelhei a ỽypei na bei y| guyr hynny vyd+
ynt yn eu guir drych. Ac odyna kymryt eu hynt
a wnaethant parth a chastell tintagol. A phan
doethant yno yd oed yn gyflychỽr. A guedy my+
negi yr porthaỽr bot yr iarll yn dyuot. Agori y pyrth
a oruc yn diannot. Ac eu hellỽg y myỽn. kanyt
oed neb o|r a|e guelei a ỽyppei na bei y iarll uei. Ar
nos honno kyscu a oruc y brenhin gyt ac eigyr
gan ymrodi y damunedic serch. kanys y falst
drych a rodassei vyrdin arnaỽ ar| tỽyllassei y wreic.
Ac ygyt a hynny y geireu tỽyllodrus dechymyc+
uaỽr a dywedei ynteu. kanys dywedut ỽrthi a
wnaeth yr dyuot yn lledrat o|r kastell kany allei
yr dim bot heb y| guelet rac meint oed y amgeled
ymdanei. ỽrth ỽybot py ansaỽd a uei arnei ac ar
y gastell. A chredu a| wnaeth hitheu yr ymadrody+
on hynny a guneuthur y uynnu ef. Ar nos honno
y kafas hi veichogi. Ac o|r beichogi hỽnnỽ y ganet
arthur y| gỽr clotuorussaf ac ardychocaf a uu o|e ge+
nedyl wedy hynny. megys y dangossant y weithredoed.
AC yna hagen guedy gỽybot nat yttoed y bren+
hin ym plith y llu. Sef a| wnaethant yn ag+
hyghorus ymlad ar muroed a cheissaỽ eu distryỽ.
« p 182 | p 184 » |