NLW MS. Peniarth 11 – page 168r
Ystoriau Saint Greal
168r
yn canu a|gỽelet y dyd yn|dec. A|dyuot a|wnaeth cof idaỽ yr|am+
ryuaelyon anturyeu a|gyuaruuassei ac ef gynt yn|y fforestyd
gan varchogyon ac unbennesseu. a chwant a|doeth idaỽ yna
y brofi y gorff. ac rac hyt y buassei ef yn|gorwed yd oed y gaỻon
yn|y gyffroi ef y wisgaỽ y arueu. a roi y gyfrỽy a|oruc ef ar y
uarch. a|gỽediaỽ duỽ ar damwheinyaỽ idaỽ o antur ymgyfar+
uot a marchaỽc urdaỽl da grymus. ac adaỽ y meudwydy a|oruc
a|dyuot y|r fforest a|marchogaeth yny doeth y lannerch deckaf
o|r|byt a mỽyaf. ac ym|perued y ỻannerch yd arganuv ef ~
prenn maỽr deilyaỽc. ac yn vaỽr y gỽmpas ar y|daear rac am+
let y gangeu. Yna disgynnu a|oruc ef yng|gwasgaỽt y prenn
a medylyaỽ a|wnaeth panyỽ tec oed y ỻe hỽnnỽ y deu uarcha+
ỽc urdaỽl y ymgyhỽrd. a|megys yd oed ef yn medylyaỽ uelly
ef a glywei weryrat march yn|y fforest. Digrif vu gan bare+
dur hynny a|dywedut. arglỽyd duỽ hoỻgyuoethaỽc yr dy ue+
dyant kanhatta vot ar y|march hỽnnỽ ual y gaỻwyf pro+
vi ossit na nerth na|grym ynof. a roi o duỽ idaỽ ynteu ~
nerth a hyder o|e amdiffin ragof|inneu. kanys y mae ynof
diruaỽr chỽant y ruthraỽ idaỽ. ac amdiffynnit duỽ ef rac
y lad ohonaf. ac rac ỻad ohonaỽ ynteu uinneu. Ac ar hynny
edrych y·rynthaỽ a|r fforest a|oruc. ac arganuot marchaỽc
yn gadaỽ y fforest ac yn dyuot y|r llanner*. ac yn aruaỽc o
bop arueu. a march gỽynn maỽr ydanaỽ. a|tharyan am y
vynỽgyl a|chroes goch yndi. a marchogyat ỻonyd ganthaỽ
a gỽaeỽ yn|y laỽ. ac yr aỽr y gỽeles paredur ef ynteu a esgynna+
ỽd ar y uarch. a|chymryt y waeỽ yn|y laỽ a|brathu y varch
a|dwy yspardun drỽy lewenyd maỽr a|dyuot a|wnaeth ef tu
« p 167v | p 168v » |