NLW MS. Peniarth 11 – page 271v
Ystoriau Saint Greal
271v
ef yny doeth yn ymyl hen gasteỻ a|oed yn nibenn fforest. Ac
yno yn ymyl porth y casteỻ ef a|welei gynuỻeitua uaỽr o
dynyon y·gyt. ac a|welei was ieuanc yn dyuot y ỽrthunt. ac
ef a|ovynnaỽd y|r gỽas pa|ryỽ gasteỻ oed hỽnnỽ. Arglỽyd heb
y gỽas brenhines landyr yssyd racko. yn peri y dwyn hyt y
porth att y marchogyon urdolyon y rei a|wely di racko. ka+
nys hi a|gigleu marỽ y marchogyon o|r casteỻ kandeiryaỽc
a|r marchaỽc a|e henniỻaỽd a beris bedydyaỽ y vorwyn ys+
syd yno. A ryued uv ganth·unt pa|delỽ vu hynny. Sef y|mae
ar y vrenhines racko ovyn maỽr coỻi o·honei y thir. kanys
magdalans vrenhin orient a|vu varỽ. yr hỽnn oed vraỽt
idi. ac nyt oes beỻach idi chweith canhorthwy. ac heuyt hi
a|gigleu panyỽ y marchaỽc a enniỻaỽd y casteỻ kandeiry+
aỽc yssyd oreu marchaỽc o|r hoỻ vyt. ac nat oes neb a aỻo
parhau yn|y erbyn. ac rac y ovyn ef y mae hi yn mudaỽ
y gasteỻ yssyd gadarnach idi no hỽnn racko. ar hynny
y gỽas a|aeth ymeith. a pharedur a|doeth parth a|phorth y
casteỻ. a|r bobyl a|oed ygyt a|r vrenhines a aruuant y groes
goch a|oed yn|taryan paredur. ac a dywedassant ỽrth y vren+
hines. weldyma heb ỽy varchaỽc cristaỽn yn|dyuot tu a|r
casteỻ. Mogelỽch heb hitheu rac na|bo ef vo yr hỽnn bieu
dileu aỽch cret chỽi. Paredur a|doeth pa·rth ac yno yn aruaỽc
a|disgynnu a|oruc. Y vrenhines a|ovynnaỽd idaỽ pa vn oed a
pheth a geissyei. arglỽydes heb·y paredur nyt ytỽyf|i yn|keis ̷+
syaỽ
« p 271r | p 272r » |