NLW MS. Peniarth 18 – page 66v
Brut y Tywysogion
66v
ar|bymthec a deugeint. Ac y cladỽyt yn|y|vynachloc
neỽyd ynn llundein. A gỽedy ef y|gỽledychaỽd edỽ+
ard y|map hynaf idaỽ ef. A gỽeithredoed hỽnnỽ ys+
syd yn yscriuenedic ynn ystoryaeu y brenhined. Y
vlỽydyn honno gỽyl seint ynis yd etholet y|dec+
uet gregorii bap. Y|ulỽydyn racỽynep yd atueraỽd
oỽein a grufud meibon meredud ap yỽein y|kymỽt
perued y gynan eu braỽt. Am·gylch gỽyl veir y|can+
hỽylleu. Y|ulỽydyn racỽynep am·gylch y|pasc bych+
an y|gofuỽyaỽd llywelyn ap grufud castell dolvorỽyn. A|dyuyn+
nv a|oruc attaỽ grufud ap gỽenỽynỽyn. Ac ymliỽ ac
ef am|y tyỽyll* ar agkyỽirdep a|ỽnaethoed idaỽ. A
dỽyn y arnaỽ arỽystli. A|their tref ar|dec o|gyfeil+
aỽc yssyd tu draỽ y|dyfi yn riỽ helyc. A|daly yỽein
y|map hynaf idaỽ a|e dỽyn ygyt ac ef hyt yg
gỽyned. Y|ulỽydyn honno y|gỽnaeth y decuet gre+
gorii bap. gyfredin cỽnsli yn liuỽn duỽ calan mei.
Y|ulỽydyn honno dyỽ sul gỽedy gỽyl ueir yn aỽst
y kyssegrỽyt yn llundein edỽart vap y|pedỽeryd
henri yn vrenhin yn lloeger. Y|ulỽydyn honno
amgylch gỽyl andras yd anuones llywelyn kenadeu at grufud
ap gỽenỽynỽyn hyt yg|kastell y|trallỽg. Ac yntev
a|e haruolles hỽy yn llaỽen. Ac a|e duc yr castell
Ac a|e porthes yn anỽyl. Ac y|nos honno yd|aeth
ef y amỽythic. Ac y|gorchymynnaỽd yr castellỽyr
attal y kynnadeu yg|karchar. A|phann gigleu y|ty+
« p 66r | p 67r » |