NLW MS. Peniarth 9 – page 62v
Ystoria Carolo Magno: Chronicl Turpin
62v
A phinabel dros wenwlyd. Ac yn diannot y llas
pinabel. Ac yna y peris charlymayn rỽymaỽ
gỽenwlyd ỽrth petwar meirch cadarnaf o|r llu.
a dodi petwargỽyr arnadunt oc eu kymell y
bedeir ban y byt. pob vn onadunt ygỽrthỽyneb
o|y gilid ac y·uelly y kauas gỽenwlyd y angheu.
Ac yna iraỽ a orugant calaned eu gỽyr en+
waỽc oll a myrr a balsami. ereill onadunt a
halltỽyt a|halen. Ac a ducpỽyt ymeith odyna.
ereill onadunt a gladỽyt yno. ereill a|ducpỽyt
y ffreinc. Ac yd oyd dỽy vynwent bennadur kys+
segredic. vn yn yr alat ten gỽedy y chessegru
o seith escyb. ac yn|y rei hyny y cladỽyt y ran vỽ+
yaf o|r calaned. A chorff rolond a ducpỽyt yn
enrydedus hyt ymblif. Ac yn eglỽys seint rỽ+
min y cladỽyt a|baryssei y hun y hadeilat. A|cha+
nonwyr a ossodet yndi a|y gledyf a ossodet uỽch
y ben. Ar eliffant y gorn a rodet is y drayt yn
lle uchel yr en·ryded idaỽ a molyant a|chlot. A
gỽedy daruot hyny y rodes charlymayn deu+
deg|mil o vgeinheu o aryant. Ar riuedi o vesaỽns
eur a gỽisgoyd anrydedus a bỽyt a|diaỽt yn
ditlaỽt y ychenogyon. Ar tir ar dayr ar seith
milltir ygkylch eglỽys seint rỽmin ar castell
ar llys ac a perthynei ỽrthunt ar mor heuyt
a hyny oll o garyat rolond. Ac ef a rodes y gan+
honwyr y lle hỽnnỽ na bei arnadunt neb ryỽ
geithiwet vydaỽl namyn rodi dillat vn weith
pob blỽydyn rac eneit rolond kyuenỽ y dyd y
« p 62r | p 63r » |