NLW MS. Llanstephan 27 (The Red Book of Talgarth) – page 141r
Purdan Padrig
141r
esgob. a heuyt dewis o·honaỽ o|e briaỽt ewyỻys mynet y|r
purdan dros y bechodeu. Y neb a ymlycka y darpar y|r
esgob trỽy vynet y|r purdan. Yr esgob a dyly annoc idaỽ
peidyaỽ a|r darpar hỽnnỽ. a dywedut idaỽ mynet ỻawer
yno. ac na doethant vyth o·dyno drachevyn. O|r tric ynteu
yn|y darpar. kymeret lythyr y gan yr esgob. a deuet att bri+
or y ỻe hỽnnỽ ar ffrỽst. a|r prior gỽedy darỻeo y ỻythyr
a dyly annoc idaỽ yn|graff dewis penyt araỻ ac nat el
y|r purdan. a dangos idaỽ y perigyl a gafas ỻawer yno.
O|r|tric ynteu yn|y darpar dyget y prior ef y|r eglỽys. a
bit yno bymthec diwarnaỽt y dyrwestu ac yn gỽediaỽ.
A gỽedy darffo hynny galwet y prior y cofeint y·gyt. A
gỽedy offeren vore kymuner y penytyỽr hỽnnỽ. a|cher+
dynt ac ef parth a|drỽs y purdan. dan ganu prossessio a
letania. a gỽasgaru dỽfyr sỽyn. Y prior hagen a|dyly dat+
kanu idaỽ yng|gỽyd paỽp yr ymdaraỽ a|wna kythreuleit
yn|y ỻe hỽnnỽ ac ef. a meint o|dynyon a goỻet yn|yr ogof
honno. O|r byd gỽastat ynteu yn|y darpar. kymeret uen+
dith paỽp o|r offeireit. a gorchymynnet y baỽp wediaỽ dros+
taỽ. Ac a|e priaỽt laỽ dodet arwyd y groc yn|y dal ac aet
y drỽs yr ogof y myỽn. ac ar hynt kaeet y prior y drỽs. ac
ymchoelet y|r eglỽys a|r prossessio ganthaỽ. A|r bore dran+
noeth aet y prior y drỽs yr ogof a|r prossessio ganthaỽ. ac
agoret y prior y|drỽs. ac o cheffir y dyn yno yn|dyuot
o|r purdan drachefyn. ym·choelent ac ef drỽy lewenyd
maỽr y|r eglỽys. ac yno bit bymthec niwarnaỽt ereiỻ.
yng|gỽyluaeu a gỽedieu. Ac ony delei ef yn|yr vn aỽr
« p 140v | p 141v » |