NLW MS. Llanstephan 27 (The Red Book of Talgarth) – page 63r
Buchedd Dewi
63r
K Eredic vrenhin a|wledychaỽd lawer o vlỽynyded. ac
o|e enỽ ef y kafas keredigyaỽn y henỽ. a mab a|vu i+
daỽ ac enỽ y mab oed. sant. Ac y hỽnnỽ yd ymdangosses drỽy
y hun. ac a|dywaỽt ỽrthaỽ. auory heb ef ti a|ey y hely. a thi
a|geffy tri dyuot geyr·ỻaỽ auon deiui. Nyt amgen karỽ a
gleissyat. a heit o wenyn y myỽn prenn uch penn yr|auon.
yn|y ỻe a|elwir henỻan yr aỽrhonn. Dyro dylyet y tir y vab
ny anet etto. kanys ef bieivyd deu|le hyt dyd·braỽt y rei a|dyw+
etpỽyt uchot. linhenỻan. a litonmaucan. Odyna y doeth pa+
dric hyt yng|glynn rosin. ac y medylyaỽd dỽyn y vuched y+
no. ac angel a doeth att badric ac a|dywaỽt ỽrthaỽ. Adaỽ di heb
ef y ỻe hỽnn y vab ny anet etto. Sef a|oruc padric yna ỻidiaỽ
a dywedut. Paham y tremygaỽd yr arglỽyd y was a uu yr
yn uab yn gỽassanaethu idaỽ drỽy ovyn a|chareat. ac ethol
ohonaỽ ynteu yr aỽrhonn mab ny anet. ac ny enir hyt ym+
penn deng|mlyned ar|hugeint. Ac ymbarattoi a|oruc padric
yndaỽ e|hun ac adaỽ y ỻe hỽnnỽ y|r arglỽyd iessu grist. a|r ar+
glỽyd eissyoes a|garei badric yn vaỽr. ac a anuones angel
attaỽ o|e|duhudaỽ. a|r angel a|dywaỽt ỽrthaỽ. padric heb ef.
byd lawen. kanys yr arglỽyd a|m anuones i attat ti. y dangos
ytt ynys Jwerdon o|r eistedua yssyd yng|glynn rosin. ac a|el+
wir yr aỽrhonn eistedua badric. kanys ti a vydy ebostol yn
yr ynys a|wely di. a|thi a|odefy lawer yno yr kareat ar duỽ.
A duỽ a vyd y·gyt a|thi beth bynnac a|wnelych. ac yna y ỻo+
nydwyt medỽl padric. ac y gedewis y dewi y ỻe hỽnnỽ. a
pharatoi ỻong yn|y porthloed idaỽ a|oruc. a chyuodi o va+
rỽ y gỽr a gladyssit yno ar y|morua yr ys pymtheng mlyned.
« p 62v | p 63v » |