NLW MS. 3036 (Mostyn 117) – page 46
Brut y Brenhinoedd
46
y ynys prydein. Ac yna guedy nat oed neb a elhei yn
erbyn beli yn y teyrnas. kadarnhau a| oruc kyfre+
itheu y tat a gossot ereill o newyd. Ac yn penhaf
y|r temleu a|r dinassoed a|r ffyrd. Ac y peris gỽneuth+
ur ffyrd breinhaỽl o vein a chalch ar hyt yr ynys.
o penryn kernyỽ hyt yn traeth catneis ym|prydein.
Ac yn vnyaỽn trỽy dinassoed a gyfarfei a hi. A fford
arall ar y llet o vynyỽ hyt yn norhamtỽn yn vnyaỽn
trỽy y dinassoed a gyfarffei a hitheu. A dỽy fford er+
reill yn amrysgoyỽ y|r dinassoed a gyfarffei ac ỽyn+
teu. Ac eu kyssegru a rodi breint a nodua udunt
mal y rodassei y tat. A phỽy bynhac a uynho gỽybot
y breinheu hynny. darlleet kyfreitheu dyfynwal.
AC val y dywespỽyt uchot y doeth bran y ffre+
inc yn gyflaỽn o pryder a gofal. Am y dehol
yn waradỽydus o tref y tat y alltuded. Ac nat oed
obeith gallu ennill y teilygdaỽt trachefyn. A gue+
dy menegi y pop vn o tywyssogyon ffreinc ar| ne ̷+
illtu. Ac na chauas na phorth na nerth. o|r diwed
y doeth hyt ar segyn tywyssaỽc bỽrgỽin. A guedy
gỽrhau y hỽnnỽ o·honaỽ; kymeint a gauas o gar+
yat a chetymdeithas y| gan segyn a guyrda y teyr+
nas. Ac nat oed yr eil gỽr nes noc ef yr tywyssaỽc
hyny oed euo a| lunyaethei negesseu y| teyrnas. ac
a dosparthei y dadleueu. Sef kyfryỽ ỽr oed vran
Tec oed o pryt a gosced. A doeth a chymhen a doos* ̷+
parthus oed. Ac ethrylithus ỽrth hely a| chỽn ac
« p 45 | p 47 » |