NLW MS. Peniarth 45 – page 142
Brut y Brenhinoedd
142
y gwas ieuanc hỽnn. AC yna gwar+
andaỽ o uyrdin ar hynny a nessau ar y bren+
hin ac adoli idaỽ. A gouyn pa achos yr du+
gyssit ef a|e uam hyt yno. Ac yna y dywa+
ỽt Gortheyrn. Uyn dewinyon i a archyss+
ant y mi keissaỽ mab heb dat idaỽ ac a gwaet
hỽnnỽ iraỽ y gweith ac y·uelly y dywedynt
y seuyll. Ac yna y dywaỽt myrdin. Arglỽyd
heb ef arch di dỽyn dy dewinyon di rac uym
bronn i a mi a|profaf bot yn gelwyd a|dywedass+
ant. Ac anryuedu a o uc y brenin. a dyuynnu
y dewinyon ger bronn. A gouyn a wnaeth myr+
din yr dewinyon beth oed yn llesteiryaỽ y gỽe+
ith. Ac ny allyssant ateb idaỽ. Ac yna y dy+
waỽt myrdin. Arglỽyd heb ef arch di dỽyn
dy weithwyr di y cladu y dayar yma. A thi
a geffy llyn y dan y dayar. A hỽnnỽ ny at yr
gweith seuyll. Ac gỽedy caffel y llyn; y dy+
waỽt myrdin eilweith ỽrth y dewinyon. ~ ~
Dywedỽch tỽyllwyr bratwyr kelwydaỽc. ~
Beth yssyd y dan y llyn. A|thei* a|wnaethant
megys ket bydynt mut. Ac yna y dywaỽt
myrdin. Arglỽyd heb ef arch di dispydu y
llyn trỽy ffrydyeu. A mi* a wely deu uaen geu
yn|y waelaỽt. Ac y myỽn y deu uaen dỽy dreic
kysgu. A chredu a wnaeth y brenhin idaỽ
can dywedassei wir am y llyn kynn no hynny.
« p 141 | p 143 » |