NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 127v
Brut y Brenhinoedd
127v
yn eu kylch. hyt pan vu reit y|walchmei a hywel ac
eu bydinoed enkilyaỽ hyt ar vydin arthur gan eu ỻad
o|r rufeinwyr yn drut A phan welas arthur yr aerua
yd oedit yn|y wneuthur o|e wyr ef. Tynu kaletuỽlch y
cledyf goreu a|wnaeth Ac yn vchel dywedut val hyny
ỽrth y|gytuarchogyon. A wyrda beth a|wneỽchi val hyn
py achaỽs y getỽch. i y gỽreicolyon wyr hyn y genỽch
Nac aet vn yn vyỽ o·nadunt nac aet. koffeỽch aỽch
deheuoed y rei yn gyfrỽys yn|y saỽl ymladeu kyn|no
hyn a darestygassant dec teyrnas ar hugeint ỽrth vym
medyant. koffeỽch aỽch hendadeu y|rei pan oedynt ga+
darnach gỽyr rufein no hediỽ a|e gỽanaethant yn dreth+
aỽl udunt. koffeỽch aỽch rydit yr hon y|mae yr han+
er gỽyr hyn yn keissaỽ y dỽyn y genỽch. Ac ỽrth hynẏ
nac aet vn yn vyỽ o·nadunt nac aet A chan dywedut
yr ymadrodyon hynẏ. kyrchu y|elynyon ac eu bỽrỽ dan
y|draet ac eu ỻad. A|phỽy bynac a gyfarffei ac ef. Ac
vn dyrnaỽt y ỻadei ac ef a|e varch. Ac ỽrth hẏnẏ paỽb
a|ffoynt racdaỽ megys y foynt anifeileit rac ỻeỽ creu+
laỽn pan vei newyn maỽr arnaỽ. Ac ynteu yn keissaỽ
bỽyt A|phỽy bynac o damwein a gyfarffei ac ef nys
differei y arueu ef rac kaletuỽlch. hyt pan vei reit idaỽ
talu y eneit egyt a|e waet. Deu vrenhin oc eu dryc+
damwein a gyfarfuant ac ef. Sertor brenhin libia. a
a|pholitetes brenhin bitinia A|r deu hyny gỽedy ỻad
eu peneu a anuones y vfern. A gỽedy gỽelet o|r brytan+
yeit eu brenhin yn ymlad y·veỻy. gleỽder ac ehofyn·der
a gymerassant. A|chan teỽhau eu bydinoed o vn vryt
kyrchu y rufeinwyr gan darparu mynet drostunt
Ac eissoes gỽrthỽynebu yn ỽychyr a oruc y rufeinwyr
« p 127r | p 128r » |