NLW MS. Peniarth 11 – page 231r
Ystoriau Saint Greal
231r
elei y eneit y baradwys. A megys y bydei arthur yno diw+
arnaỽt yn edrych drỽy vn o|r ffenestri. a|gỽalchmei a pharedur
y·gyt ac ef. ef a|welei processio maỽr a|diỻat gỽynyon ymdan
baỽp. ac yn|ỻaỽ y blaenaf o·nadunt yd oed croes vaỽr dec. a
chroes vechan yn|ỻaỽ bop vn o|r ỻeiỻ. ac yn|ỻaỽ ereiỻ torseu
o|gỽyr yn ỻosgi. ac yn|dyuot dan ganu. ac am vynỽgyl yr
olaf oỻ yd|oed cloch. arglỽyd duỽ heb y brenhin pa ryỽ dy+
lỽyth yỽ y rei racko. arglỽyd heb·y paredur mi a|atwaen
baỽp ohnunt* namyn yr olaf. Y ỻeiỻ vy meudwyeit i ynt
o|r fforest racko. yssyd yn|dyuot y ganu geirbronn seint ~
greal. ac ueỻy y gỽnant ỽy tri·dieu bop wythnos. A|phan
doethant ỽy y|r casteỻ ỽynt a gyrchassant y capel ar|hynt.
Ac yna y kymerassant ỽy y gloch y gan yr olach* ac a|e
hoffrymassant y|r aỻaỽr. A|gỽedy hynny ỽynt a|dechreuas+
sant canu molyanneu y duỽ yn|ogonedus. Yr ystorya ysyd
yn|tystolyaethu nat oed yn|yr amser hỽnnỽ y|nghỽbyl o o
vryttaen vaỽr chweith caregyl. nyt ydiỽ ynteu yn|dywet+
ut na bei yn|ỻe araỻ. Y|greal yna a ymdangosses ar|secret
yr offeren yn tri mod. A|phan|daruu yr|offeren ef a|gafas
yr offeiryat ỻythyr bychan ar yr aỻaỽr yr hỽnn a|oed yn
dywedut panyỽ yn|y kyfryỽ lestyr a|hỽnnỽ y mynnei yr
arglỽyd kyssegru y gorff. ỻawen vu gan y brenhin welet
yr|hynn a|weles. a|chymryt yn|y gof a|wnaeth ef henỽ ca+
regyl a|e ffuryf. a gỽedy hynny ef a|ovynnaỽd y|r meudỽ* a
duc y gloch yno. o|ba|le y dathoed y ryỽ beth hỽnnỽ. Arglỽ+
yd heb y meudỽy ỽrth walchmei myui yỽ y brenhin y ỻed+
ist di
« p 230v | p 232r » |