BL Harley MS. 958 – page 45r
Llyfr Blegywryd
45r
1
a varnhont Ac ueỻẏ ẏ|teruẏnir dadleu tir.
2
P An dechreuher kẏnhen am|teruẏneu
3
tired neu trefẏd. Os ẏ·rỽg tẏr ẏ ỻẏs
4
a|thir ẏ wlat ẏ dechreuir. ỻẏs a teruẏna.
5
Os ẏ·rỽg tir eglỽẏs a|thir ẏ wlat. eglỽẏs
6
a|teruẏna. Os ẏ·rỽg kẏt·etẏuedẏon. breint
7
a|teruẏna. Os ẏ·rỽg tir kẏfanhed a|thir
8
diffeith kẏgwarchadỽ a|teruẏna a·deil ac
9
aradỽẏ ẏỽ kẏfanhed. Pan teruẏno ỻẏs.
10
Maer a|chẏgheỻaỽr drosti bieu dangos ẏ
11
teruẏneu. Os eglỽẏs. bagẏl ac euegẏl O|r
12
bẏd amrẏsson rỽg deudẏn vn vreint am
13
teruẏn ac na ỽẏper gwir ẏ·rẏdunt tẏghet
14
pob vn ẏ teruẏn. A gwedẏ hẏnnẏ ranher ẏ
15
tir amrẏsson ẏn deu hanner. Pan teruẏno
16
tref ar ẏ ỻaỻ. nẏ dẏlẏir dỽẏn rantir ẏn
17
gỽbẏl gẏt a|r teruẏn. Tri ỻe ẏ ran kyf+
18
reith. a|r vn racdewededic ẏỽ ẏ kẏntaf.
19
Eil ẏỽ pan ranher eu da rỽg gỽr a gỽreic
20
o varỽolaeth ẏ neiỻ o·honunt. Trẏdẏd ẏỽ
21
pan dẏcker ỻỽdẏn neu peth araỻ coỻedic
22
ẏ ỽrth aghẏfreith ẏ gẏfreith. Deudec erỽ
23
a|thrẏchant a|uẏd ẏn|ẏ rantir kẏfreith+
24
aỽl. megẏs ẏ kaffo ẏ perchen o|r trẏchan
25
erỽ aradỽẏ. A phorua a|chẏnnut a ỻe
« p 44v | p 45v » |