NLW MS. Peniarth 9 – page 13r
Ystoria Carolo Magno: Rhamant Otfel
13r
*nyon ar y ol yn mynet. A phaỽb o·nadunt yn
dywedut. y iessu y|th orchymynnỽn. Ac yr ar+
glỽydes veir. A phoet hỽy athiffero hediỽ rac
agheu. ar vn gogyuurd ar|dec a ysgynnyssant
yn gyflym gyt ac ef. Ac y dugant hyt y·rỽg
y deu dỽr ysyd yn kerdet drỽy y dref ym par+
is. y neill onadunt yỽ sein ar llall a elwir ma+
rin vaỽr. Y sarscin etwa yn seuyll rac bron
y brenhin. Ac ef a dywaỽt ỽrthaỽ yn ỽychyr.
charlys heb ef par ym luryc a helym a|thary+
an a chledyf. March da buan yssyd y minheu.
hyt nat oes vn well noc ef hyt ym beliant a
minheu a adaỽaf it yn wir ar vy ffyd am cled+
yf os kylymhet ef a|phan ayth y gennyf i. y
lladaf rolond it kyn aỽr anterth. Ac yna lli+
dyaỽ a oruc y brenhin yn diruaỽr y ueint. bre+
id na holltes. a dywedut ỽrth y pagan duỽ heb
ef a|th ladho di a|th genedyl yn gyntaf rac me+
int ym kyffroeist ar lit a|thristỽch. Ac eissoys
arganuot belisent y verch a oruc yn dinot
o|y hystauell parth ar neuad. A phan deuth y my+
ỽn echywynnu a oruc yr holl neuad o|y theg+
ỽch megys hi vei yr heul aỽr hanner dyd vis
mei neu leuuer mayn cayrbunculus pan vei
dywyll y nos. Ac ef a ymneidỽys erni a|y
vanec. Ac y dywaỽt ỽrthi. Merch heb ef. y ti
y gorchymynnaf y pagan hỽn yman. A gỽisc
ymdanaỽ ar ffrỽst val na chollo dim o ple+
gyt y arueu. ymlad ar gymerth arnaỽ yn
The text Ystoria Carolo Magno: Rhamant Otfel starts on line 1.
« p 12v | p 13v » |