Breudwd Welsh Prose 1300-1425
Cymraeg

NLW MS. Llanstephan 4 – page 31v

Buchedd Beuno

31v

1
le yn aruon a|elwir gwaredaỽc. a beuno a
2
rodes y|r brenhin gwaeỻ eur a|rodassei gy+
3
nan uab brochỽel idaỽ ynteu pan vuassei
4
varỽ. a|r|waeỻ honno a|dalei drugein|mu.
5
Ac yno yd adeilyaỽd beuno eglỽys. ac y
6
dechreuaỽd adeilat mur yn|y chylch. Ac
7
ual yd oed dydgỽeith yn gỽneuthur y
8
mur hỽnnỽ a|e disgyblon gyt ac ef. na+
9
chaf y gỽelynt yn|dyuot attunt gỽreic
10
a mab newyd eni yn|y harffet. ac yn erchi
11
y veuno vedydyaỽ y mab. Heb·y beuno
12
ha|wreic arho origun yny orffennwyf
13
hynn. a|r mab yn wylaỽ ual nat|oed haỽd
14
y diodef. Ha wreic heb·y beuno ffest a beth
15
yd|wyl y mab. Ha|wrda sant heb y wreic
16
y mae achaỽs idaỽ y hynny. Ha|wreic da
17
heb·y beuno pa achaỽs yỽ hỽnnỽ Dioer
18
heb y wreic y tir yd ỽyt|ti yn|y vedyannu
19
ac yn adeilyat arna tref tat y mab yỽ.
20
Yna y dywaỽt beuno ỽrth y disgyblon.
21
Tynnỽch aỽch dỽylaỽ heb ef y ỽrth y gỽeith
22
tra vedydywyf y mab. a pharattoỽch ym
23
vyg|kerbyt. ni a|aỽn ygyt a|r wreic honn
24
a|r mab y ymwelet a|r|brenhin y gỽr a|ro+
25
des ymi y dref tat ef. Ac yna y|kychwy+
26
naỽd beuno a|e disgyblon ygyt a|r wreic