NLW MS. Peniarth 9 – page 12r
Ystoria Carolo Magno: Can Rolant
12r
Ac yn hyny yd oyd oliuer yn ymlit y elynny+
on a dryll y wayỽ yn|y laỽ. Ac a hỽnnỽ taraỽ
maỽstaron ar aỽch y helym yny blygỽys
yr helym drỽy y benffestyn yny gymhellỽyt
y lygeit oc eu heisteduaeu. Ar ymhenyd y re+
dec yn eu hol hỽynteu. Ac ynteu yr llaỽr yn
varỽ ymlith mil o varchogyon o|y gedymde+
ithyon y hun yn|y gylch. Ac yn ol hỽnnỽ ta+
raỽ torkin a dryll yr vn paladyr ac ny allỽ+
ys yr aryf barhau gan dyrnaỽt kymeint
a hỽnnỽ namyn torri yn vil o dryllye yn
wascaredic o pob parth idaỽ. A phan argan+
uu rolond hyny. y angreifftaỽ a oruc val hyn.
A gedymdeith da heb ef nyt a ffyn y may rei+
taf ymlad yn|y vrỽydyr hon namyn ar cleuy+
deu ar arueu heyrn. may haỽtcler dy cledyf
di yn da. Ny bu reit ym hyt hyn y dinoythi
heb yr oliuer ny doyth cof ym ef keuei tra
yttoydỽn yn ymlit y cỽn rac vy awyd yn eu
llad ar araf a oyd ym llaỽ. Ac odyna tynu
y cledyf o|y wein a|y dangos y rolond y gedym+
deith gan daraỽ y|tyen ac ef ar y helym ar
penffestyn. A|thrỽy yr arueu oll. A|thrỽy y gỽr
ar march hyt y llaỽr yny oyd ran o pob parth
yr cledyf yn wahanedic onadunt. Yn|y dyr+
naỽt hỽnn yd adweni dy vot ti yn gedym+
deith y rolond heb y rolond. Ac o|r kyfryỽ dyr+
nodeu hyny heuyt yd heydy kedymdeithas
charlymayn ac yd ymgedwy a|y enryded.
« p 11v | p 12v » |