NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 198v
Brut y Tywysogion
198v
a|wnaethant y lywelyn kymrẏt y vab yn hedỽch yn drugarawc
a madeu idaỽ gỽbyl o|e lit o ewyỻus y galon. ac veỻy y|gỽnaeth+
pỽyt ac yna y duc ỻywelyn y ar ruffud gantref meironyd
a chymỽt ardudỽy a dechreu adeilat casteỻ yndaỽ a|wnaeth
idaỽ e|hun. yg|kyfrỽg hẏnẏ y ỻithraỽd rys jeuanc ỽrth yr
arglỽyd rys. ỻywelyn ac yd ymedewis ac ef ac yd aeth at
wilim marsscal jarỻ penuro o achaỽs rodi o|lywelyn gaer
vyrdin y vaelgỽn ap rẏs ac na rodei idaỽ ynteu aber teiui
a oed yn|y ran pan ranỽẏt deheubarth ac yna y|deuth. ỻywelyn.
a|e lu hyt yn aber ystỽyth ac y gỽeresgynaỽd y casteỻ a r
kyuoeth a oed ỽrthaỽ ac y dodes dan yr* arglỽydiaeth e hun
ac yna y kyrchaỽd rys jeuanc lẏs y brenhin a|chỽynaỽ
a oruc ỽrth y brenhin am y|sarhaet a|wnathoed ỻywelyn
idaỽ a dyunaỽ a wnaeth y|brenhin attaỽ. ỻywelyn. a jerỻ a barỽn+
eit y mars hyt yn amỽythic. ac yn|y kygor hỽnỽ y gymrodet
rys jeuanc a ỻywelyn. ap joruerth ac yd edewis. ỻywelyn. idaỽ a·ber teiui
megys y|rodassei gaer vyrdin y vaelgỽn ap rẏs. Y vlỽẏdyn
hono yd aeth ỻu y|cristynogẏon damiet yn yr eiff tu
a babilon ỽrth ymlad a hi ac nys gadaỽd dial duỽ canys
ỻifhaỽ a|wnaeth avon nilus ar y ford a|e gỽarchae rỽg
dỽy afon yny vodes aneiryf o·nadunt. ac yna y doeth
y|sarasineit vdunt a ỻad ỻawer o·nadunt. ac yna keith+
iỽaỽ ereiỻ ac yna y goruu arnunt talu damiet y|r sarasin+
yeit drachefẏn dros y bywyt a|e rydit y keith. a gỽneuthur
kygreir ỽyth mlyned ac ỽynt. ac odyno y|hebrygaỽd y
sarasineit ỽynt hẏt yn acrys ỻe ny|ỽydit dim y ỽrth
groes grist namyn trugared duỽ e|hun a|e talaỽd vdunt
Y|vlỽẏdẏn hono y|kyweiraỽd Jon breỽys gasteỻ seinhenyd
drỽy genat
« p 198r | p 199r » |