NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 43r
Brut y Brenhinoedd
43r
vnyaỽn drỽy y|dinassoed a gyfarffei a hitheu A|dỽy
ford ereiỻ yn amrysgoyỽ y|r dinassoed a gyuarffei
ac ỽynteu. Ac eu kyssegru a|rodi breint a noduaeu
vdunt mal y rodassei y|dat. A|phỽy bynac a vyno
gỽybot y breinheu hẏnẏ darỻeet gyfreitheu dyfyn+
A c val y dywetpỽyt vchot y doeth bran ~ ~ wal.
y|freinc yn gyflaỽn o dolur a|phryder a goual.
am y dehoỻ yn waratwydus o dref y tat y aỻ+
tuded. Ac nat oed o·beith y aỻu eniỻ y deilygdaỽt
drachefyn. A gỽedy menegi y pop vn o dywysso+
gyon freinc ar neiỻtu Ac na chauas na phorth
na nerth o|r diwed y doeth hyt at dywyssaỽc
byrgỽyn. A gỽedẏ gỽrhau y|hỽnỽ o·honaỽ kymeint
a gauas o garyat a chytymdeithas ac nat oed
eil gỽr nessaf y|r brenhin namyn ef yny oed euo
a luneitheu negesseu y deyrnas|Ac a dosparthei y|dad+
leueu. Sef y|kyfryỽ ỽr oed vran. tec oed o bryt a
gosged a|chymen a dosparthus oed ac ethlyrithus*
ỽrth hely a|chỽn ac ac adar mal y dylyei deyrn. A|r
tywyssaỽc a gauas yn|y gygor rodi vn verch oed idaỽ
yn wreic y vran. Ac ony bei etiued o vab kanhadu
y vran y gyuoeth gan y verch o bei hyn noc ef ac
o bei idaỽ ynteu adaỽ porth y vran y oresgyn y|ky+
uoeth e|hun a hyny o gyttunndeb jeirỻ a barỽneit
a marchogyon vrdaỽl Ac odyna ny bu ben y vlỽy+
dyn yny vu varỽ tywysaỽc byrgỽyn. a|r gỽyr a
garei vran gynt yn vaỽr o|e getymdeithas ny
bu anhaỽd gantunt darestỽng o|e ỽrolaeth.
A|gỽedy tynu paỽb yn vn ac ef. Medylyaỽ a oruc
dial ar veli y|sarhaet. Ac yna heb anot drỽẏ gẏgor
« p 42v | p 43v » |