NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 47r
Brut y Brenhinoedd
47r
vrdaỽ y|dylyedogyon ac estỽg y rei andylyedaỽc A
gỽneuthur iaỽnder y baỽb A|phan vu varỽ yg|kaer
lyr y cladỽyt.
A c yna elidyr eilweith a gymerth y vrenhinaeth.
ac ym|pen rynaỽd y kyuodes. Peredur ac owein
y deu vroder ieuaf yn|y erbyn. A|gỽedy ymlad ac
ef dala elidẏr a|e dodi yn|ỻundein yg|karchar. a|ranu
yr ynys yrydunt. Sef mal y|ranysant. ỻoeger a chymrẏ
a|chernyỽ y owein A|r gogled y beredur. Ac ym|pen y
seith mlyned y bu varỽ owein Ac y|dygỽydỽys y kyfoeth
yn ỻaỽ peredur Ac y|mhen yspeit gỽedy ỻywyaỽ y|te+
yrnas yn hegar tagnefedus a|phaỽb yn vodlaỽn
idaỽ y bu varỽ peredur. Ac yna y doeth elidyr y
drydet weith yn vrenhin A|phan aeth o|r byt hỽn; yd e+
dewis kyfreitheu da yn|y ol A gỽedy marỽ elidyr y doeth
rys vab gorbonyaỽn yn vrenhin. A hỽnnỽ a|adeilỽys o|gỽ+
byl yn ol gỽ·eithredoed elidẏr A gỽedy marỽ rys y doeth
Margan vab arthal a hỽnnỽ o dysc y|ryeni a wnaeth iaỽn+
der a|gỽirioned A gỽedy marỽ margan y doeth. einyaỽn
y vraỽt ynteu yn vrenhin A|pheỻau a wnaeth hỽnnỽ y
ỽrth weithredoed y vraỽt Ac am y greulonder y byryỽẏt
yn|y wechet vlỽydyn o|e deyrnas Ac yna y doeth idwal
vab ywein y gar yn|y le. A hỽnnỽ a|wnaeth jaỽnder a gỽi+
rioned rac ofyn damwein y|gar. Ac yn ol jdwal y doeth
run vab peredur Ac yn ol run y doeth gereint vab elidyr
Ac yn ol gereint y doeth kadeỻ y vab. Ac yn ol kadeỻ y
doeth coel. Ac yn ol coel y doeth porrex. Ac y porrex y|bu
dri meib. FFulgen ac eidal. ac andryỽ. A|r rei hyny a
wledychỽys pop vn ol yn ol. Ac yn eu hol ỽynteu; y
doeth vryen vab andryỽ. Ac yn|y ol ynteu y|doeth eluyd.
« p 46v | p 47v » |