NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 14r
Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth, Mabinogi Iesu Grist
14r
ac yn yr llythyr yn yscriuenedic. brenhin groec a darestwg idaw pob teyrnas gristonogawl
holl dinassoed. ac ynyssoed y paganeit a distrywa. ac eu temloed a diwreida. a|r holl
paganyeit a dric y gret. ac yn yr holl temloed y werthuawr groc a dyrcheuir. Yna y dechreu
ef rodi ethiopia a|r eifft yn dywawl wassannaeth. ac ar ny wedio y|r groc kyssegredic
o leas cledeu y teruynir. A phan gwplaer cant ac ugein mlyned. yr ydeon a trossir y gret
o|r arglwyd. a|e ved ynteu gwynvydedic a vyd gogonedus y gan bawp. Yn y dydyeu
hynny y kyuyt y dyethir iuda. a gwlat yr israel yn ffydlonder a bresswyla.XVYn yr
hwnnw amser y kyuyt tywyssawc enwired o lwyth dan. yr hwnn a elwir anticrist. hwnn
a vyd mab colledigaeth. a phenn syberwyt. ac athro kyueilorn. kyn lawn*
o dryc·enwired. yr hwnn a drossa y byt. ac a wna arwydon. a bredycheu drwy ffalst
dangossedigaetheu. ef a dwyll trwy hudolawl geluydit lawer yn gymeint ac y gweler
ef yn anvon y tan o|r nef. ac y lleihaer y blynydoed megys y missoed. a|r missoed
megys yr wythnosseu. a|r wythnosseu val y dydyeu. a|r dydyeu val yr oryeu.
Yna y kyuodant o deheu dwyrein kenedloed ky|hynet o|r rei a werthwys alexander
nyt amgen. goc a magoc. yna y mae dwy vrenhinaeth ar hugein. riuedy y rei ny wys
mwy no|r tywawt yn y weilgi. Pan welo brenhin y rufeineit y geilw y lu. ac y ryuela
ac wy. ac y llad hyt y teruyn eithaf.XVIA gwedy hynny y daw y gaerusalem. ac yno
y gwrthyt goron y terynas. a phob brenhinawl abit y dedyf y deyrnas y duw dat. ac
yn arglwyd ny iessu grist y vab. Yn y oes ef y deuant y deu egluraf. nyt amgen. hely
ac enoc. y venegi bot yn dyuot rac llaw. ac y llad yr anticrist y rei hynny. A|r trydydyd
y kyuodant trwy duw. ac yna y byd gouid mawr. y kyuryw na bu na chynt nac gwedy.
yr arglwyd a vyrhaa y dydyeu hynny o achaws y detholedigyon. A mihagel a lad yr
anticrist y|mynyd oliuet. gwedy racvenegy o sibilla y petheu hynn. a llawer o betheu
ereill a deloynt* rac law. Ac ymha arwydon y duw daw* y varnu.
A sibilla a dywot o dewindabaeth. arwydd y varnn a wlych y daear o chwys. O nef
y daw brenhin rac llaw drwy oessoed yn|y gnawt y varnu y byt. Odyna ffydlawn ac
anffydlawn a welant duw goruchel y gyt a seint yr oes yn|y teruyn hwnnw.XVII
Ac yna y deuant yr eneiteu yn eu corfforoed y|r varnn. Yna y bydant drein amyl yn|y
daear anywylledic. ac y bwrw y bedeu y vyny a vo yndunt. ac y llysc tan y daear a|r
awyr a|r weilgi. ac y tyrr pyrth y twll uffernn. ac y rodir y|r eneiteu da ryd oleuat.
ac y rei drwc fflam tragywydawl ac eu llysc. Ac yna yd adef pawb y dirgeledigyon
pechodeu. Duw a ardengys keternyt goleuat. yna y byd kwynvan. a chrynn danned.
yna y twylla* yr heul. ac y drycheuir geuri yn y syr. ac y try y nef. ac y palla
goleurwyd y lleuat. Yna y gostygir y lleoed uchel. ac y drycheuir y glynnyeu. ny byd
nac uchel nac issel ar y daear ny wneler yn gyn wastatet. Yna y gorffwyssant pob peth.
ac y palla y|r daear yn torredic. Ac yna y llysc tan yr auonyd a|r ffynhonneu. ac yna
y daw llef o|r nef. corn o|r goruchelder praff y odwrd. ac y byd trist y rei truein yn
kwynaw eu pechawt ac eu hamryvaelyon lauuryeu. Ac yna y dengys y daear uffernawl
defnyd. Ac yg|gwyd y|dansodir* pob peth ac y bwrir. ac yna y dygwyd
tan brwmstanawl o|r nef a dwfyr o|r un defnyd. Ac ar hyn y teruyna prophwydolyaeth
sibilla gyt a|e breudwyt.
*Llyma mal y treithir o vuched Meir wyry. ac o vabolyaeth an Hargluyd ny Iessu
Grist. herỽyd mal y yscriuenỽys Matheu euangelystor yn Eurey. a sein Jeronym o ly+
uyr Matheu a| e troes o yeith Eurey yn Lladin. trỽy adolỽyn y gan Chromatius ac Elyodorus.
Y mae Chromatius ac Elyodorus esgyb yn anvon annerch a charyat yn yr arg+
luyd. oc eu karediccaf vraut. wy y Geronym offeirat. Nyny a gaussam ganediga+
eth Meir wyry. a mabolyaeth an hargluyd ny Iessu Grist. y myỽn gev lyureu. yn
yr rei y guelsam laỽer o betheu gurthỽyneb yn ffyd ny. A| r petheu gurthodedic oll a gu+
dyassom rac rodi o·honam ny y| r ancrist leỽenyd druy blyc ar Grist. A guedy edrych hyn+
ny o·honam y managassant deu ỽr. nyt amgen Armenius a Iunius yni. caffel o santeiruyd dy
lyuyr yn Eurey a ysgriuynassei Vathev euangelystor a| e laỽ e| hun. yn yr hỽnn yd oed bu+
The text Mabinogi Iesu Grist starts on line 42.
« p 13v | p 14v » |