NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 2r
Delw'r Byd
2r
*gwyllt anhegar. A phob peth a wrthwynnepo idaw a| e gornn y llad.
Ac ny ellir y douy. Ac yn Gangys auon y maent llassvot a thrychant cwuyt yn eu
hyt. Yno y maent pryuet tebic y wrach a dwy vreich vdunt a hwech cwuyt yn eu
hyt. Ac o| r rei hynny y toroga yr eliphant ac yn y tonnev y sodant. Ac yn y mor
hwnnw y maent malwot ac yn eu kybynnev y geill dynyon atlamv. Ac yn yr In+
die y mae magneten maen gwyn a tyrr haearnn. Ac yno y mae adamas maen
ny ellyr y torri namyn a gwaet bwch twym. Ac o| r auon a elwir Yndus hyt yn Ti+
grie auon arall y mae Parthia gwlat a their brenhinaeth ar dec ar hugeint yndi.
Yno y mae Assyria a gauas y henw y gan Assur vab Sem. Ac yndi y mae Media a ga+
uas y henw y gan Medius vrenhin ac y gwnnaeth dinas yndy ac a| e gelwis Media.
Ac yndi y mae Persidia a gauas y henw y gan Perseus vrenin. Ac yndi gynntaf y gwnae+
thpwyt kyuarwydon. Ac yndi y mae pyramus maen a lysc y llaw a| e ymotto; a gwyn yw
a| e wynder a tyf ac a gilia gyt a| r lleuat. O Tygris hyt yn Euphrates y mae Me+
sopotamiam. Ac yn honno y mae dinas Ninive ac Anyws vrenhin a| e gwnaeth. Ac yn
honno y mae brenhinaeth Babilonia a henwit y gan Babilon twr a diuawys Membro+
th gawr. A Semiramis a| e gwnaeth. A dec cwuyt a deuceint a oed yn tewhet y mur
a decuant cwuyt a oed yn y huchet a dec milltir ar hugeint a oed yg kylch y gaer
a chann porth heuyt arnei ac Euffrates trwy y pherued. A Babel vu y saer. Ac yn
honno y mae Caldea gwlat a gaffat yndi gyntaf kelvydyt o| r awyr. Ac yndy y mae
Arabia gwlat a elwir Sabba y henw y gan Sab vab Chus. Ac yn honno y keffir ystor;
ac yn honno y mae mynyd Synai ac Oreb ac y|mynyd Synai y cauas Moysen y
Deceir Dedyf. A cherllaw hwnnw y mae Madian ac yn honno y bu Ietro effeirat
yn gyntaf. Ac yn y wlat honno y mae kenedloed llawer Moabyte Mawnitei Ydu+
mei Sarraceni Medianite a llawer o rei ereill. O Euffrates hyt ym perued y Mor Ma+
wr y mae Syria gwlat a gauas y henw y gan Syrius vrenin. Ac yno y mae Damas+
cus ac Antinochia y gan Anthiochus vrenin. Ac yno y mae Comagena gwalt a
Ffenica gwlat a gauas y henw y gan fenix ederyn ny byd byth namyn e| hun neu y
gan Fenix vrenhin ab Agenor. Yn honno y maent Tyrus a Sswydon dinassoed. Yn hon+
no y mae mynyd Libanus ac y dan hwnnw y daw Eurdonnen. Yn honno y mae Palestina
a gauas y henw y gan dinas Palestin ac Ascalon y gelwir yn awr. Yno y mae Iudea
a gauas y henw y gan Iuda vab Iago o Lya lawuorwyn. Ac o| r llwyth hwnnw yd en+
nwyt yn breninoed. Yno y mae Cananea a enwit y gan Chanaan vab Cham.
Ac yn honno y mae Ierusalem yr hon a wnaeth Sem vab Noe ac a| e gelwis Salem. A Ie+
buseus vab Kana a| e kyfuanhedwys; ac o Iebus a Salem y rodes Dauid vrenin
enw ydi Ierusalem. A Selyf vab Dauid o eur a gemev a| e kyweirwys ac a| e gelwis
Ierosolimam. A wedy diua o wir Babilon. Zerobabel a| e goruc; a gwyr Rufein a| e
diuawys. A gwedy hynny Elius Adrianus amherawdyr a| e gwnaeth ac a| e gelwis
Heliam. Ac yn honno y mae dinas Nazareth gerllaw mynyd Tabor. Ac yno y mae
brenhinaeth a phymp brenhinaeth yndi. Ac yn honno y buant gynt Sodoma a Go+
morra deu dynas a lygkwys y daear. Ac yno y mae Mor Marw yd a Eurdonen yndaw.
Ac yno y mae Sarraceni a enwit y gan Sarra; ac Agareni; ac Ysmaelite a enwit y gan
Ysmaele vab Yvream. A Nabothei vab Ysmael; a dwy genedyl y maent.
I| r gwladoed hynny yn vnyawn y maent o| r dwyrein hyt y mor yssyd ym perued y
dayar. Ac yrygtunt a| r deheu y mae yr Eifft ac yn honno y maent pedeir kenedyl ar hugeint.
A honno a daw o Vor Rud y dwyrein a| e theruyn a hyt yn Libia yn y gorllewin.
The text Delw'r Byd starts on line 2.
« p 1v | p 2v » |