NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 36v
Efengyl Nicodemus, Ystoria Titus
36v
ynteu a ysgriuennvys pob peth o| r a dyvwedassant yr ideon ac a wnnaethant o iessu ac a| e rodes yn hon+
neit yn llyureu kyhoedauc y dadleu ef. Ac odyna yd ysgriuennwys pilatus yr ebostol honno at
claudus amperaudyr hyt ynn rufein yn y mod hvnn. Pilatus o ynys bont yn anuon annerch y claudius
vrenhin. E diwed hvnn a damweinvys. ac y mae prouedic gennyf ry annoc o| r ideon truy gyghoruynt
poeni iessu o greulaun agheu. o| r hvnn yd oed adawedic y eu tateu hwy. yd anuonei duv o| r nef udunt
o| e obryn. a hvnnv a edevis y anuon y wyry y| r daear. a guedy anuon o duv kenedyl y eurei hvnnv
y iachau. a| e welet onadunt yn goleuau y deillonn. ac yn iachau cleiuon. ac yn rodi eu pedestric
y| r crupleit. ac yn bvrv y dieuyl o| r dynyon. ac yn kyuodi y meirv yn vyv. ac yn argluydiav ar
y gwynheu. ac yn kerdet ar wynep y tonneu. ac gwnneuthur lluossogruyd o wyrtheu ac anry+
vedodeu odidauc. a chyt bei llaver o| r ideon a grettynt y vot ef yn vap y duv. o gyghoruynt eissoes
tywyssogyonn yr effeireit a| r athrauon. a llauer heuyt o| r ideon a| e dalassant ac a| e rodassant
yr raglav. ac ereill a dyvedynt y vot yn devin a| e vot yn gvneuthur yn erbynn eu dedyf.
A minheu hep ef a gredeis y vot ef velly oc eu hymadrodyon hvy. ac a| e rodeis ef y boen oc eu
braut hwy. ac wynteu a| e crogassant ef ynn| y groc. ac a| e cladassant y|myvn bed ac a ossodassant
marchogyon o| m gorssed i yn geittueit ar y bed. a guedy insseilav y bed yd aethant hvy ymdeith.
a| r trydydyd y kyuodes ynteu o ueirv. a chymeint vu eu henwired hwy a rodi da y| n marchogyon
ni yr dyvedut onadunt ry| dwynn o| e disgyblonn y gorff ef yn lletrat y ganthunt hyt y nos.
A chyt kymerei vi marchogyon i y da ny allassant kelu guironed yr daroed. a thystu ry| gyuo+
di ohonav o| r bed. ac adavedassant heuyt kymryt y da onadunt y gan yr ideon. vrth hynny
annoc y| r brenhin na chredet ef y geluyd yr ideon canys tystuys yr marchogyon y| ry| gyuodi
ef. ac eu bot wynteu yn gyghoruynnvs. Mi a anuoneis ar ty veddyant ti pob peth o| r a|vwnna+
ethpvyt ym dadleu. i. o iessu hvnnv.
*PAnn yttoed pilatus o ynys bont yn raglav yn iudea yn y dydyeu yd oed amperavdyr tiber yn rufe+
in. yn yr amsser hvnnv y rodet yr argluyd. Ac yn yr amser hvnnv yd oed medyanus adan yr
amperavdyr heuyt yn dinas burdegal ym brenhinaeth aquittan. yr honn a alvm ni gwas+
gwyn. hvnnv a oed wedy ry achup o granc y wynep hyt y lygat. Ac yna yd athoed dyn o wlat
iudea nathan y env. mab y navm hysmaelites; y borthmonaeth. neu newituryaeth o wlat y wlat
ac o vor y gilyd yg|gogylch y daear o teruyn y teruynn. Hvnnv a annvonadoed yna ar yr amperav+
dyr parth a rufein. a llauer o da gantav y| r amperavdyr. Ac yna yd oed tyber yn orthrvm o heint clauri
yr ys nav mlyned. Ac guedy dyuot nathan truy vordvy truy auon tyber; y doeth gwynt gvrthvyn+
nep o| r deheu ac y tafulvys ef y| r gogled. A guedy ym yr dangu a dyuot hyt yn auon a elwit gvar+
an yn y lle y kyrchei honno y mor. ac ar y hyt y doethant hyt yn dinas burdegal. ac yr arganvu
titus raglav yr amperaudyr y llong. ac yd adnabu y hanvot o bell ac anryued vu gantunt cany wel+
ssynt y chyvryv eiroet. ac anuon attunt a oruc titus y erchi vdunt dyuot attav. a nathan a doeth
attav. a gouyn a oruc titus idav. Pvy wyt ti. Mi heb ef nathan vab navn o genedl croec wedy
vy anuon o pilatus o ynys bont y rufein a mal yr amheravdyr gennyf o wlat iudea. ac y doeth gwynt
gvrthvynneb ym am dvyn y| r lle hvnn. ac ny wn ni y pa le yd wyf. Pei gallut ti hep·y titus caffel
ymi neb ryv vedyginaeth ae o ireideu. ae o lysseuoed a iachei y wely yssyd ar vy wynep. mi a|thy+
gvn di yn y lle. rac bronn yr amperaudyr. Eynteu yna a tyngvys. Byw yv yr argluyd hep ef na allaf|i
gaffel dim o| r a erchi di. Pei ry uuassut hagen kynn o hynn yg gwlat iudea yn amseroed anna
ti a allasut caffel prophuyt. a iessu grist oed y env yr hvnn a anuonassei duv. ac anadoed o| r
wyry y iachau kenedyl dyn oc eu pechodeu. yr hvnn a wnaei llaver o wyrtheu ar y daear yg
gvyd y bobyl. O| r dvuyr y gvnaeth yn gynntaf y gvin. Odyna y gvnaeth y kleiuon yn iach. ody+
na y rodes eu llygeit y| r deillonn. Odyna y gyrrvys y dieuyl o| r dynyon y bei yndunt. Odyna y ky+
uodes y meirv yn vyv. Odyna yd iachavys gvreic a vuassei glaf o| r heint a uyd anyanavl a| r
gwraged. yr ys deudeg mlyned. ac ny allassei vedygon vn gvaret idi. Odyna o| r pym torth a| r
deu bysc y porthes y pym mil o dynyon. Ef heuyt a ymdavys ar warthaf y tonnev. yn troet
noeth. A llauer o anryuedodeu ar|y ny ellir eu riuedi a vnaeth. a phan gigleu hep ef yr ideon
The text Ystoria Titus starts on line 23.
« p 36r | p 37r » |