NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 48v
Credo Athanasius
48v
*Megys yd ymwassanaethant aelodeu vn corff yn eu kyureideu val y troet nev lav y| r penn a| r llygat y| r
troet velly y dylyant aelodev Duv ymnerthu hyt na bo gwell ar neb ohonunt. Vrth hynny can
dyelleis i dy uot ti enrydedus Eua verch Varedut yn damunav caffel Credo Anathasius Sant yg Kymr+
aec y kymereis i arnaf vychydic o lauur y troy yr Credo hvnn yn ieith y gellych ti y darllein a| e
dyall o heruyd y synnvyr a rodes Duv ymi kynny bechvn na chvbyl na pherffeith y traethu peth
kyuuch a hynny nac y wneuthur peth a vei wiw y| th vreint titheu a| th enryded. Vn peth hagen a dy+
lyy ti y wybot ar y dechreu pan trosser ieith yn y llall megys Lladin yg Kymraec na ellir yn wastat
symut y geir yn y gilyd a chyt a hynny kynnal priodolder yr ieith a synnvyr yr ymadravd yn
tec. Vrth hynny y troes i weitheu y geir yn y gilyd a gveith ereill y dodeis synnvyr yn lle y synnvyr
heruyd mod a phriodolder yn ieith ni. Hynn weithon a gymereis i arnaf y wneuthur yr lles yspry+
daul a didanuch yti ac yn enryded y| r Trindaut o nef y neb y mae gobeith gennyf caffel y nerth.
Pvy bynnac a vynnho adeilat teruynn a gyrhaedo y nenn y nef reit iw idav yn gyntaf gvneuthur
grvndval cadarnn diyscoc. Pob cristaun weithonn a dyly adeilat e| hun truy weithredoed da
yn temyl y Duv a hynny yn gyuuch ac y carhaedo truyg ret a gobeith a charyat teyrnas gvlad
nef. Grwndval bellach a seil yr holl gristonogaeth yv credu yn y Trindaut o nef ac yn Iessu Grist.
Vrth hynny megys y bo haus y baup adeilat temyl vchel diogel y Duv y dyscaud Anathasius Sant
bvrv y grvndval cadarnn yn y blaen ae dywavt val hynn. Pwy bynnac a vynho iachav y eneit
yn gyntaf peth reit yv idav ef kynnal cret gyffredin yr egluys. A phuy bynnac ny|s cattuo yn
gyuan ac y dilvgyr diogel yv idav ef y collir ac y diffruythir yn tragyvyd y gorff a| e eneit.
E Ffyd weithon Gyffredin yv honn credu y Duv yn teir personn a| r teir person yn vn Duv. Ac ny dyly nep
kymyscu y personnyeit na gwahanu y dvyolaeth. Sef yw hynny ny dyly neb credu bot y Tat a| r Mab yn
vn person diwahan megys vn dyn. a thri eno arnav canys velly y dywat Scabellius dyffyd ysgym+
vnnedic. A heuyd ny dylyvn i tebygu bot y teir person yn beth gwahannedic megys tri dyn Peder
a Phaul ac Andras canys velly y dywat Arrius dyffyd y gvr a dineuavd ohonav y holl amyscar
yn ual y gyueilornn a| e gamgret. Namyn credu a dylyvn i bot y Tat a| r Mab a| r Yspryt Glan
yn teir person ac yn vn Duv diwahann. Canys vn person yv y Tat ac vn person arall yv y Mab
a|r person tryded yv yr Yspryt Glann. Ac eissoes vn yv dvyolyaeth y Tat a|r Mab a|r Yspryt
Glann a gogymeint yv eu gogonyant a gogedrygywydaul eu breint ac eu mavrhydi.
Sef yv hynny didechreu yv pob vn ohonunt ac nyt kynt vn no| e gilyd ac nyt pennach.
Vnryv yv y Tat a| r Mab a| r Yspryt Glann. Sef yv hynny doeth a da a chyfyavnn a thec a ha+
el yv y Tat ac velle y Mab ac velle yr Yspryt Glann. Digreedic yv y Tat ac yv y Mab ac yv
yr Yspryt Glann. Sef yv hynny ny bu dechreu y vn o| r teir personn hynn mal y bu y| r creduryeit.
Diuessur yw y Tat nyt o hyt a llet ac vchet megys peth corfforaul namyn ny ellir meintoli na
chyuartalu y rym a| e nerth a| e allu; a gvir velle diuessur yv y Mab a diuessur yv yr Yspryt
Glann. Didechreu tragywydaul yv y Tat a didechreu yv y Mab a didechreu yv yr Espryt Glann.
Ac eissoes nyt ynt tri didechreu tragywydaul namyn vn tragywydaul. Sef yv hynny kynn boent
tri vy vn yv eu tragywydolyaeth ell tri. A gvir val y mae digreedic diuessur y Tat velle y mae y M+
ab a| r Yspryt Glann ac val kynt vn yv eu diuessuredigaeth ac eu digreedigaeth vy. Sef yv
hynny kynn boent tragywydaul y Tat a| r Mab a| r Yspryt Glann eissoes nyt tri tragywydoly+
aeth yssyd vdunt vy megys bot tri oet tri dyn gogyuoet arnunt. A heuyt kyt boet maur y Tat a| r Mab
a| r Yspryt Glann eissoes nyt tri meint yssyd vdunt vy megys tri dyn gogymeint namyn vn me+
int; nyt meint corfforaul namyn meint o nerth a gallu. Wir velle hollgyuoethauc yv y Tat
ac velle y Mab ac velle yr Yspryt Glann. Ac eissoes nyt tri hollgyuoethauc ynt vy namyn vn
hollgyuoethauc. Sef yv hynny nyt tri hollallu nyt tri hollgyuoethoccruyd yssyd vdunt vy meg+
ys y tri dyn vnallu kyuoethauc namyn vn a diwahan yv eu hollallu ell tri. Wir velle Duv yv y
Tat a Duv yv y Mab a Duv yv yr Yspryt Glann. Ac yr hynny nyt ynt tri Duv namyn vn Duv. Ac
velle Argluyd yv y Tat ac Argluyd yv y Mab ac Argluyd yv yr Yspryt Glann. Ac eissoes nyt ynt
tri Argluyd vy namyn vn Argluyd. Sef yv hynny nyt teir argluydiaeth yssyd eidunt vy na+
myn un argluydiaeth. Kanys megys y mae agkenreit yni truy wironed an cret adef uot
The text Credo Athanasius starts on line 1.
« p 48r | p 49r » |