NLW MS. Peniarth 5 (The White Book of Rhydderch, part 1) – page 23r
Buchedd Catrin
23r
a gauas emelltith duỽ. arglỽyd vrenhin heb y tỽyllỽr hỽnnỽ mi a wnaf itt peirant
heb ohir a ovynnha hi yn vaur. ac yna y gỽnaeth ef pedeir rot. a phob vn yn troi yn er+
byn y gilyd. a danned o dur vdunt. ac ar y rhei hynny y dottet y vorwynn. Katrin a ed+
rychaud parth a| r nef. ac a ỽediaud ar duỽ y brenhin vchaf Mi a adolygaf yt argluyd
trugared y| m heneit. ac yr aur honn yd af i y| m hageu. ac y| m gỽaet y| m betydyir. i.
Y dynyon truein drỽc a troassant y roteu yn ebruyd. Eissoes iessu vab meir ny atadaud
heb gof y vorỽynn. y egylyon ef a anuones attei. ac a torrassant y rodeu. ac eu dryllyeu
llymyon ỽy o| r truein agkrededunyon a ladassant deg mil. a deugeint. a llaỽer oc a ỽelss+
ant y gỽyrtheu hynny. a gredassant yr argluyd duỽ. a thrỽy y llas y rei hynny. ac eu
heneittyeu a aethant y paradỽys. a maxen vrenhin a littyaud am lad y ỽyr. ac a vedy+
lyaud pa delỽ y gallei ef lad y vorỽynn. ac yna y dyỽat ef ỽrth y vorỽyn duỽ. amadra+
ỽd geu. medylya di vorỽyn dec etỽa. cret di y| m dỽyỽeu. i. ac o achaus dy decceti ty a
geffy dy eneit. yna yr attebaud morỽyn duỽ idaỽ. ny thal dim dy gelỽyd di. nyt oes
ofyn dim arnaf i o| th boenev di. canys o leỽenyd tragyỽydaul yd ỽyf i dirgel. yr hỽnn ny
deruyd beyth. E truan vaxen a dyỽat yna ỽrth y ỽyr. arglỽydi beth a gyghorỽch
chỽi ymi. a pha dylỽ y gallaf i diall y hennvyttrỽyd ar gatrin. am na chret hi y| m dwyỽ+
eu. i. Yna y dyỽat y grỽyr drỽc o gyt lef erchi y dỽyn y maes o| r tref y lad y phenn.
yna y ducpwyt y vorỽynn y| r maes ac yd yspeilỽyt hi. a llaỽer o wraged oed yna yn
wylaỽ ac yn kỽynaỽ. am gatrin. morỽyn duỽ. Vn truan o| r dynyon emelldigedic a dyn+
ỽataỽd kledyf llym ac a erchis idi ystynnu y mynỽgyl. a guedy hynny ti a golly
dy benn tec. Vy mraut. i. y tec heb·y catrin arho ychydic. Vn wedi a ỽnaf i y| m hargl+
ỽyd creaỽdyr nef a daear. tat. a mab. ac yspryt glan vn duỽ yn yscriuenedic y bren+
hin vchaf mi a adolygaf it trugared y| m eneit. a pho c y bop cristaun a gredont
ynot ti yn gatarnn. Mi a adolygaf it yr dy enỽeu di vchel di arglỽyd y neb a greto
ym dioddef i. ac a| e coffao mi adolygaf it iessu vab meir diffryt y rei hynny rac eu gely+
nyon. a rodi trugared o| e henneitteu. a| r neb a del at vyg korff i. ac a| e keisso truy dy eno
di. rodi ohonat iechyt vdunt o| e drycyeu. Y brenhin vchaf yn y trindaut dyro ymwaret
y| r dynyon truein hynn yma yssyd y| m poeny. yr dy garyati madeu vdunt eu ffolinep
hỽnn cany vdunt beth y maent yn y wneuthur. a| r boen a wnnaethant ymi. Mi a| e ma+
deuaf vdunt. ac y| th laỽ ditheu arglỽyd y gorchymynnaf i vy yspryt. Yna y doeth egyl
att gatrin. ac y dyỽat vrthi. gennyf i yd anuones iessu vab meir. y ganhettav yt oll.
yr hynn a ercheist|i ydau. dyret heb ohir o| r boen honn y| r lleỽenyd diogel tragyỽydaul.
Yna y dyỽat catrin ỽrth y gỽr drỽc truan. llad dy heb hi vym penn. i. yr aur honn. Canys
vy arglỽyd a anuones attaf i. y erchi ym dyuot y| r lleỽenyd ny deruyd byth. a| r gỽr
drỽc yna a ladaỽd y phenn. a llaeth yn lle gỽaet a redaud allann. ac agylyon yna a gy+
merssant y heneit ac a| e ducssant y| r nef. a| e chorff a| e cladyssant ym mynyd
Synay. A| r neb a del yno y geissaỽ iechyt. ac a gretto o| e diodeifyeint hy
ỽynt a gahant iechyt heb ohir. Ac o| e bed hi y maent pedeir ffrut o yn dyfot
o| e bronnev hy o olev. drỽy y rei hynny y cauas llaỽer gỽr a gỽreic Jechyt.
ac y caffant rac llaỽ oc a| e cretto. ac nyt oes neb a ỽyppo rif y saul a ga+
uas iechyt yno. A hynny a wnaeth duỽ erdi ac ychỽannec. Ac
wrth hynny nynheu a adolygun. ac a archun y duỽ yr y
charyat hy. ac yr y diodeifyeint a diodefuỽys hy ar y chorff hi y| r
glan yr caryat duỽ. rodi yn trugared yn eneittyeu. A rodi yn
byỽyt yn y byt hỽnn yma. megys y gallom dyuot y diỽed
da. a charu duỽ a| e wassannaethu megys y gallom dyuot
y| r lleỽenyd tragyỽydaul ny deruyd byth yr caryat seint
y katriny. AMEN. Deus
Pater noster. etc. Credo in deum patrem.
« p 22v | p 23v » |